WEDI GWERTHU ALLAN!! Gwyddoniaeth ymarferol i Sbarduno gwyddonwyr y dyfodol!

WEDI GWERTHU ALLAN!! (Seminar cyfrwng Saesneg) O dan arweiniad Awen Ashworth fe gewch gyfle i ddysgu am Wyddoniaeth yn y blynyddoedd cynnar. Bydd hwn yn sesiwn ymarferol ble byddwch yn cael cyfle i roi cynnig ar wneud arbrofion Gwyddoniaeth syml y gellir eu gwneud eto yn eich lleoliad. Bydd y gweithdy yn rhoi mewnolwg i ddulliau newydd o gyflwyno Gwyddoniaeth gan ddefnyddio offer syml. Gyda’r Cwricwlwm newydd yn yr arfaeth, mae Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn un o’r chwe maes dysgu ac arbenigedd.

Fe fydd y seminar yma yn….
– Codi eich hyder i wneud ‘arbrofion’ syml gyda’r plant;
– Dangos cyfleoedd ble gallech dargedu llinynnau dysgu ar gyfer lefelu;
– Gwella eich dealltwriaeth ynglŷn â Gwyddoniaeth;
– Helpu’r plant yn eich gofal i ddysgu egwyddorion syml Gwyddoniaeth;
– Eich ysbrydoli ac yn hwyliog!

Ar ddiwedd y seminar fe fyddwch chi yn…
– Gweld cyswllt rhwng bywyd bob dydd er mwyn i’r plant sylweddoli pa mor bwysig a diddorol a pherthnasol ydi Gwyddoniaeth;
– Medru ysbrydoli plant i ennyn diddordeb yn y maes o oed ifanc;
– Medru gwneud arbrofion mewn ffordd hwyliog a gofalus;
– Annog datblygu sgiliau eraill pwysig megis datrys problemau, gweithio fel tîm a gweithio’n unigol.

(Sesiwn cyfrwng Saesneg)

Awen Ashworth

Sbarduno