Tear top Tear bottom

Sioe Addysg Genedlaethol

Caerdydd 2023

Seminarau
06/10/2023
Seminarau
Archebu Grŵp
06/10/2023
Llawrlwytho
Arddangoswyr
06/10/2023
Arddangoswyr

Gwybodaeth am y
Sioe 2023

Ymunwch â ni ynghŷd â’n holl siaradwyr anhygoel a’r arddangoswyr wyneb yn wyneb yn y Sioe Addysg Genedlaethol ar y 6ed o Hydref 2023 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Digwyddiad bythgofiadwy sy’n rhoi cyfleoedd a chynnig ffyrdd newydd i wella a chodi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.

Darllen mwy am ein seminarau

Llawrlwytho ffurflen archebu grŵp

Pam mynychu'r Sioe?

Digwyddiad addysgol y mae’n rhaid ei fynychu

Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr sector a chyfleoedd i gwrdd ag amrywiaeth eang o arddangoswyr.

Wrth ymweld â’r sioe byddwch yn:

  •  cael mynediad i dros 40+ o seminarau DPP
  • caffael strategaethau parod & adnoddau i godi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu & chefnogi dysgwyr
  • cysylltu drwy gyfleoedd rhwydweithio ardderchog hefo cyfoedion & siaradwyr
  • ysbrydoli a grymuso eich staff
  • treialu’r cynhyrchion/gwasanaethau diweddaraf a derbyn cynigion unigryw gan arddangoswyr

Darllenwch yr adborth anhygoel ‘rydym wedi’i gael…..

“Roedd mynychu’r Sioe Addysg Genedlaethol yn rhoi cyfle i’n staff i addasu eu DPP yn unol â’u hanghenion personol. Roedd y dewis eang o seminarau yn rhoi iddynt ysbrydoliaeth, mwynhád, syniadau arloesol am addysgu, a hwb i’w hunan lles. Roedd hefyd yn gyfle unigryw i gyflwyno ein holl staff i’r technegau a’r adnoddau diweddaraf a gyflwynwyd gan yr amrywiol arddangoswyr i ysbrydoli eu brwydfrydedd ar gyfer datblygu arferion addysgu newydd. Fe ddaethant â llu o syniadau ysbrydoledig yn ôl i’r ysgol oedd yn eu galluogi i ddatblygu eu haddysgeg a dechrau defnyddio’r syniadau arloesol mewn cwricwlwm newydd.”

T Griffith, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd Cyfarthfa

Gwrandewch ar fwy o negeseuon cymeradwyo gan fynychwyr
Eisiau gwybod mwy?
Cofrestrwch am gylchlythyr