Sioe Addysg Genedlaethol
Caerdydd 2025
Gwybodaeth am y
Sioe 2025
Ymunwch â ni ynghŷd â’n holl siaradwyr anhygoel a’r arddangoswyr yn y Sioe Addysg Genedlaethol ar ddydd Gwener, Hydref 3ydd 2025 yn yr Utilita Arena Caerdydd.
Digwyddiad bythgofiadwy sy’n rhoi cyfleoedd a chynnig ffyrdd newydd i wella a chodi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.
Pam mynychu'r Sioe?
Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr sector a chyfleoedd i gwrdd ag amrywiaeth eang o arddangoswyr.
“Roedd mynychu’r Sioe Addysg Genedlaethol yn rhoi cyfle i’n staff i addasu eu DPP yn unol â’u hanghenion personol. Roedd y dewis eang o seminarau yn rhoi iddynt ysbrydoliaeth, mwynhád, syniadau arloesol am addysgu, a hwb i’w hunan lles. Roedd hefyd yn gyfle unigryw i gyflwyno ein holl staff i’r technegau a’r adnoddau diweddaraf a gyflwynwyd gan yr amrywiol arddangoswyr i ysbrydoli eu brwydfrydedd ar gyfer datblygu arferion addysgu newydd. Fe ddaethant â llu o syniadau ysbrydoledig yn ôl i’r ysgol oedd yn eu galluogi i ddatblygu eu haddysgeg a dechrau defnyddio’r syniadau arloesol mewn cwricwlwm newydd.”
T Griffith, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Uwchradd Cyfarthfa
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.