‘Rwyf wedi ei ddysgu, ond a yw fy nisgyblion wedi ei ddysgu’?

Bydd y seminar yn edrych ar rai penawdau o waith ymchwil i helpu plant gaffael mwy o wybodaeth, cofio mwy, a gwneud mwy o waith dros amser gan drafod beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am gefnogi disgyblion, a sut i fynd i’r afael â gwaith heriol a diddorol.

Edrychir, er enghraifft, ar bwysigrwydd cysyniadau, hyrwyddo chwilfrydedd a chwisiau.

Seminar trwy gyfrwng Saesneg.

Mary Myatt

Ymgynghorydd Addysg