Sut gall amgueddfeydd gefnogi eich gwaith yn y dosbarth?

Mae profiadau dysgu tu allan i’r dosbarth yn ran bwysig o’r siwrne i wireddu’r pedwar diben  – yn y seminar yma bydd Lowri Ifor o Amgueddfa Cymru yn trafod y ffyrdd gwahanol y gallwch ddefnyddio ymweliadau ag amgueddfeydd i gyfoethogi eich cwricwlwm ar draws y meysydd dysgu a phrofiad, yn ogystal a ffyrdd gwahanol i ymgysylltu yn rhithiol o’r stafell ddosbarth.