Strategaeth darllen effeithiol

Mae Ysgol Bro Gwydir wedi cael cydnabyddiaeth gan Estyn am eu gwaith iddatblygu safonau darllen. Bydd y seminar hwn yn rhoi mewnwelediad i chi am eu gweithdrefnau, gan gynnwys:

  • Strategaeth/ raglen darllen yr ysgol sy’n sicrhau fod pob plentyn ar lefel llyfrdarllen priodol ac addas i’w hoed a gallu.
  • Rhaglenni ymyrraeth darllen a rhaglenni ar lein
  • System wobrwyo darllen ar draws yr ysgol
  • Strategaethau dysgu darllen ar draws yr ysgol
  • Strategaethau cymhwyso sgiliau darllen o fewn heriau annibynnol yn y Cyfnod Sylfaen ac o fewn gwaith thema’r adran Iau.

Language: Cymraeg | Audience: Cydlynwyr Iaith /Athrawon Cynradd

CYDAG

Mrs Bethan G Jones a Mrs Eirian Jones
Ysgol Bro Gwydir