Datblygu medrau darllen ar draws feysydd y cwricwlwm

Yn y sesiwn hon, fe fydd Awen yn cyflwyno strategaeth lwyddiannus Ysgol Dyffryn Conwy wrth ddatblygu medrau darllen disgyblion oed uwchradd ar draws y cwricwlwm, gan gynnwys ymchwil, cynllunio strategol, y gweithredu a’r effaith ar y maes arbennig hwn. Cyflwynir sut mae meysydd penodol wedi mabwysiadu’r strategaeth ysgol gyfan er mwyn bod disgyblion yn magu hyder ac yn gwneud cynnydd ar draws y cwricwlwm. Ceir hefyd enghreifftiau o adnoddau cynllunio ac addysgu cyfoethog ac effeithiol. Cydnabwyd gwaith grymus Ysgol Dyffryn Ogwen yn y maes hwn gan Estyn fel astudiaeth achos.

Language: Cymraeg | Audience: Uwchradd

CYDAG

Awen Mair
Arweinydd Darllen