Cynllun pontio – Cynradd Uwchradd

Casgliad o adnoddau newydd digidol ar gyfer athrawon Cynradd ac Uwchradd yng Nghymru fel gweithgareddau trawsgwricwlaidd.
Maes ‘Astudiaethau’r Amgylchfyd / Y Dyniaethau’

Cyflwyno un o bedair Uned i’r athrawon – ‘Cynefin Cymysg’
https://carreg-gwalch.cymru/blogs/news/cynefin-cymysg

Defnyddio amrywiaeth o apiau, meddalwedd a gwefannau arbenigol newydd ar lein i gefnogi athrawon a disgyblion i wneud ymchwiliadau ymarferol o fewn ‘ Y Dyniaethau’ ac ‘Astudiaethau’r Amgylchfyd.

Cyflwyniad i athrawon :
Bwriad yr adnoddau yma yw annog dysgwyr i;

  • ystyried beth ydy cynefin,
  • ddeall bod yna gynefinoedd gwahanol yng Nghymru,
  • ddod i adnabod eu cynefin eu hunain yn well,
  • ystyried beth sy’n debyg ac yn wahanol rhwng eu cynefin hwythau a chynefinoedd eraill.

 

Ein bwriad yw rhannu arfer dda rhwng ysgolion gan ddangos enghreifftiau o ymchwiliadau gan ysgolion penodol Cynradd ac Uwchradd sy’n byw mewn cynefinoedd Y Bryniau, Dinesig, Arfordirol a Chymysg.

Mae’r gweithgareddau yn pontio ymchwiliadau Cynradd ac Uwchradd.

Mae pob uned yn cynnwys:

  1. Llwybrau Dysgu ar gyfer athrawon sydd yn seiliedig ar glipiau fideo byr o nodweddion ffisegol, dynol, economaidd ac amgylcheddol y cynefinoedd dan sylw. Ceir yma hefyd awgrymiadau am weithgareddau ynghyd a chynnwys pellach megis lluniau mewn ffeiliau Pŵerbwynt.
  2. Dilyniant o dasgau a gweithgareddau ymchwiliol i’r dysgwyr eu cyflawni er mwyn adnabod pob cynefin yn well. Mae’r tasgau a’r gweithgareddau yn gymorth i ddatblygu sgiliau a chysylltiadau â meysydd dysgu a phrofiad eraill. Mae modd addasu’r gweithgareddau ar gyfer astudio unrhyw gynefin.
  3. Cyfres o Adnoddau Ychwanegol sy’n cynnwys gwybodaeth a chyfarwyddiadau ynglŷn â defnyddio meddalwedd a gwefannau perthnasol sydd ar gael i bawb yn rhad ac am ddim. Ceir yma hefyd sawl enghraifft o waith gwahanol ysgolion.
  4. Casgliad o glipiau fideo drôn gwreiddiol a chlipiau o feddalwedd Google Earth dros bob cynefin.

Mae’r enghreifftiau ysgolion yn cynnwys gwaith Ysgolion Cynradd ac Uwchradd.

Language: Welsh | Audience: All

Robin Williams
Ymarferwr Creadigol ac Ymgynghorydd Technoleg Gwybodaeth