Cryfhau llais y dysgwr

Mewn arolwg craidd diweddar, cydnabwyd gwaith llwyddiannus Ysgol Gyfun David Hughes o ran cryfhau Llais y Dysgwr gan Estyn fel astudiaeth achos. Yn y
sesiwn hon, fe fydd Mari a Helen yn cyflwyno’r ymchwil, cynllunio strategol, y gweithredu a’r effaith ar y maes arbennig hwn ar eu hysgol. Byddant yn esbonio’r effaith yn benodol ar waith gwrth-hiliaeth fel rhan o’r cwricwlwm cyn symud i weithgaredd gweithdy fyddai’n rhoi syniad i’r ysgolion fyfyrio ar eu darpariaeth hwy ar sail ‘Hart’s Ladder’ – sef eu man cychwyn nhw ar y daith.

Language: Cymraeg | Audience: Uwchradd

Meinir Davies – Dirprwy Bennaeth
Helen Bebb – Arweinydd Llais y Dysgwr