e-sgol yn y Cynradd

Cyflwyniad rhyngweithiol yn edrych ar brosiectau buddiol i ysgolion cynradd sy’n manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf i ddod â phrofiadau gwerthfawr i ddysgwyr ledled Cymru.

Bydd cyfle i flasu arlwy eang gan gynnwys gwasanaethau rhyngweithiol sy’n edrych ar fanteision yr iaith Gymraeg gyda thasgau llythrennedd wedi’u gwahaniaethu i 11 lefel, e-steddfodau byrlymus yn dod ag un o draddodiadau diwylliannol pwysicaf Cymru yn fyw i’r dosbarth, gweithdai e-hangu gorwelion ar y cyd â phrifysgolion Cymru i gynnig profiadau heriol i ddysgwyr dawnus yn ogystal â sesiynau bywiog sy’n cynnig profiad o ieithoedd y byd i’ch ysgolion – rhywbeth at ddant pawb!

Seminar hon yn addas i bawb. 

Huw Davies

Arweinydd Cynradd e-sgol