Hybu Llythrennedd – adnoddau am ddim

Mae llythrennedd plant Cymru wedi dirywio’n arw yn ystod y ganrif hon – rydan ni 3 blynedd gyfan ar ei hôl hi wrth gymharu gyda lefel llythrennedd plant 10 oed Iwerddon erbyn hyn. Ond o ddysgu oddi wrth wledydd eraill, mae modd inni daclo’r broblem yma.

Mae arolwg mewn 30 o wledydd yn dangos fod dysgu ar bapur – drwy ddarllen ac ysgrifennu – yn 60% yn fwy effeithiol na cheisio dysgu darllen ar sgrin.

Mae Gwasg Carreg Gwalch yn cyhoeddi straeon a nofelau deniadol a hwylus i ddarllenwyr dihyder. Mae gennym storfa o adnoddau addysgol a gweithgareddau hamdden (am ddim!) i gyd-fynd â’r cyhoeddiadau yma. Bydd Elen, Delyth a Myrddin yn cyflwyno’r cyfan yn y sesiwn hon.

Addas ar gyfer bawb. 

Myrddin ap Dafydd, Elen a Delyth Medi