Hyder i Ffynnu: Offer Ymarferol i Gefnogi Iechyd a Lles Dysgwyr

Yn y seminar ymarferol a rhyngweithiol hwn, bydd Dyddgu Morgan-Hywel yn archwilio sut y gall addysgwyr feithrin hyder dysgwyr, cryfhau eu gwytnwch a chefnogi eu hiechyd a’u lles drwy ddefnyddio dulliau hyfforddi effeithiol. Gan dynnu ar dros 15 mlynedd o brofiad ym maes addysg, ei gwaith fel hyfforddwr arweinyddiaeth a llesiant, i chefndir fel chwaraewraig rygbi ryngwladol dros Gymru, mae Dyddgu yn cynnig persbectif unigryw ar hyder, datblygiad personol a goresgyn heriau.

Gan gysylltu â Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles y Cwricwlwm i Gymru, bydd y sesiwn yn cyflwyno strategaethau syml ac effeithiol y gall athrawon eu defnyddio i helpu dysgwyr i ddatblygu gwell hunanymwybyddiaeth, adnabod eu cryfderau, ymdopi â heriau a meithrin ffydd yn eu gallu eu hunain.

Drwy weithgareddau ymarferol, cwestiynau hyfforddi a chyfleoedd i fyfyrio, bydd cyfranogwyr yn gadael gyda dulliau y gallant eu defnyddio ar unwaith yn yr ystafell ddosbarth i rymuso dysgwyr, annog sgyrsiau cadarnhaol a chreu amgylchedd lle mae gan bob dysgwr yr hyder i ffynnu.

Language: Welsh | Audience: All

Dyddgu Morgan-Hywel
Hyfforddwr Arweinyddiaeth a Llesiant | Addysgwr | Cyn-chwaraewraig Rygbi Ryngwladol
Cymru