Mae’n cymryd Pentref
Ar ôl blynyddoedd o lymder ariannol a phandemig rhyngwladol, mae ysgolion bellach yn ffeindio’u hunain yn fwyfwy allweddol i gefnogi teuluoedd. Byddwn yn trafod strategaethau i feithrin perthnasau cryfach gyda rhieni, i gyd-weithio gyda hwy i ddatblygu gwytnwch a sgiliau emosiynol, cyfathrebu ac academaidd eu plant. Bydd y seminar hon drwy gyfrwng Cymraeg.