Cam wrth Gam i gael plant i ‘sgwennu Cerddi

Grisiau bach yw dysgu plentyn i drin geiriau nes y bydd yn y diwedd yn cyfansoddi cerdd. Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno ymarferion odli, cytseinedd a rhythm, creu llinellau a chreu penillion a fydd yn rhoi hyder i’r dosbarth (a’r athrawon!) gael hwyl gyda geiriau a chwilio am bosibliadau newydd. Ymarferion sylfaenol a chamau cyntaf fydd y rhain ond rhai y gall y dosbarth i gyd eu mwynhau. CA2.

Myrddin ap Dafydd