Bydd cerddoriaeth yn siarad pan fo geiriau’n methu.

Mae therapi cerddoriaeth yn adnodd sydd yn gallu cefnogi plant sydd hefo anhwylderau iechyd meddwl drwy fynegi eu hemosiynau drwy gerddoriaeth neu weithgareddau creadigol eraill lle mae mynegiant geiriol ar goll neu’n anodd.

Drwy therapi cerddoriaeth gall plant ddechrau rhoi trefn ar eu meddyliau, teimladau ac emosiynau i greu cyswllt, lleddfu gorbryder a gwella perthynas.

Addas i bawb.

Joy Dando

Therapydd Cerdd