Seminarau Caerdydd 2026
Ein Seminarau
Trefnu yn ôl amser
Trefnu yn ôl amser
Clir
09:00 – 09:50
Strategaethau ymarferol i gynyddu cyfranogiad rhieni yn yr ysgol
Mae’r seminar hwn yn cynnig cyfoeth o strategaethau profedig a dibrofwyd i’r cyfranogwyr er mwyn adeiladu partneriaethau cryfach gyda rhieni a gofalwyr.
09:00 – 09:50
“Cracking Numeracy” – dysgu rhifedd trwy ddull ffoneg
Mae'r sesiwn hon ar gyfer athrawon/ysgolion sydd heb 'gracio’r system' eto, ac sy’n sicrhau bod plant bob amser ymateb yn gyflym a chywir wrth brosesu rhif sylfaenol.
09:00 – 09:50
Seminar ADY
Pwysigrwydd cydnabod a chynnwys staff niwroamrywiol
Rydym yn aml yn canolbwyntio ar ein disgyblion niwroamrywiol, ond beth am ein staff, ein Neurokin a'n cydweithwyr? Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Seminar ADY
Dysgu ac addysgu mewn byd niwroamrywiol
Yn ystod y sesiwn hon, bydd Nina Jackson, addysgwr niwroamrywiol ei hun, yn eich arwain, yn rhannu strategaethau, sgiliau a syniadau i gefnogi dysgu ac addysgu mewn byd niwroamrywiol.
09:00 – 09:50
Seminar ADY
Beth all plentyn 4 oed ei ddysgu i chi am wahaniaethau cyfathrebu awtistig
Bydd y seminar yn edrych ar sut mae ei ddealltwriaeth i bethau fel oedi mewn prosesu, chwarae, a chyfathrebu diwylliannol traddodiadol yn berthnasol yn yr ystafell ddosbarth ac yn y cartref.
09:00 – 09:50
Asesu ar gyfer addysgu ymyrraeth: Anhawster dysgu penodol mewn mathemateg
Golwg ar y camau presennol sy’n gysylltiedig â chasglu tystiolaeth a chael asesiad sy’n cynnwys diagnosis o Dyscalculia Rhifyddol neu Anhawster Dysgu Penodol mewn mathemateg (SpLD). Pwyslais ar bwysigrwydd asesu ar gyfer ymyrraeth i gefnogi cynllun ymyrraeth addysgu. Darllen mwy...
Speaker image Speaker image
Rob Jennings & Cat Eadle,
09:00 – 09:50
Seminar ADY
Rhythm, rheoliad a thrwsio: Defnyddio technegau therapi cerdd ar gyfer adfer o drauma.
Bydd y seminar rhyngweithiol yn cyflwyno athrawon i’r wyddor o beth sydd tu ȏl i rhythm a thrauma, ac yn eu darparu hefo strategaethau yn seiliedig ar rhythm i adeiladu amgylchedd ddysgu sy’n sensitif i trauma.
09:00 – 09:50
Y Sanctum Mewnol: Mynd i’r afael ag unigrwydd mewn ysgolion a cholegau
Mae’r sesiwn hon yn cyfuno’r syniadau allweddol o ‘Mental Wealth’, ‘The Mental Wealth Scorecard’, a ‘7 Pillars of Self-Care.’ Darllen mwy...
09:00 – 09:50
Gweithdy dwylo niferus
Ymlaciwch a myfyriwch yn ein cornel dawel, gan bori detholiad wedi ei guradu o adnoddau print sy’n cefnogi dysgu cynhwysol a dwyieithog.
Speaker image
Dr Ali Hanbury, Carys John, Fflur Dafydd, Rachel Lloyd, Dafydd Morris
09:00 – 09:50
Beth sydd cyn cam cynnyddd 1? Addasu darpariaeth dysgu sylfaen i gyd-fynd a’r cwricwlwm lleoliadau nas cynhelir
Bydd y seminar yn cyflwyno sut aeth Ysgol Eifion Wyn ati i newid eu darpariaeth dysgu sylfaen i gyd-fynd â gofynion y cwricwlwm hwn gan gynnwys yr amgylchedd, oedolion sy’n gallu dysgu a profiadau sy’n ennyn diddordeb.
09:00 – 09:50
“Clicks”: Helpu pobl ifanc i fod ar eu gorau ar-lein
Yn y seminar bydd Natasha Devon MBE yn amlinellu rhai o'r egwyddorion allweddol a chanllawiau ymarferol i athrawon a staff.
09:00 – 09:50
‘Getting under the skin of it: Applying an Anti-Racist Lens to Curriculum Design’
Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn symud y tu hwnt i gynhwysiant arwynebol ac sy’n arwain at ddylunio cwricwlwm ystyrlon trwy lens gwrth-hiliol. Byddwn yn archwilio pwysigrwydd dewis yr adnoddau ‘cywir’ sy’n adlewyrchu lleisiau a phrofiadau amrywiol ac yn dangos strategaethau ymarferol ar gyfer ymgorffori bod yn wrth-hiliol mewn dysgu ac addysgu.
09:00 – 09:50
Creu amgylchedd ddysgu cynhwysol: Yr ymdeimlad o berthyn ar gyfer bob dysgwr
Mae'r seminar diddorol hon, dan arweiniad Joanne Lockwood o ‘SEE Change Happen’, yn edrych ar sut y gall ysgolion a cholegau greu diwylliannau gwirioneddol gynhwysol lle mae pob dysgwr - gan gynnwys y rhai ag ADY - yn teimlo'n werthfawr ac yn cael cefnogaeth.
09:00 – 09:50
Hapusrwydd fel iaith a strategaeth – Creu diwylliant ystafell ddosbarth
Mae hapusrwydd yn iaith ac yn strategaeth sy'n llunio diwylliant yr ystafell ddosbarth.Byddwch yn gweld sut mae emosiynau, ‘gratitude circles’, Darllenwch mwy...
09:00 – 09:50
Archwilio diogelu cyd-destunol
Archwiliwch risgiau y tu hwnt i'r cartref drwy ddeall sut mae grwpiau cyfoedion, dylanwadau ar-lein ac amgylcheddau lleol yn llywio pryderon diogelu. Adnabod ffactorau allanol sy'n cynyddu bregusrwydd, gan gynnwys ymwneud â gangiau, ecsbloetio, a deinameg cymdeithasol sy’n niweidiol. Darllenwch mwy...
10:30 - 11:20
‘Guru’ Ymddygiad
Yn y seminar rhyngweithiol hwn, fe welwch sut i gamu i’ch rôl fel ‘Guru’ Ymddygiad – yn dawel, yn hyderus, ac yn barod gyda strategaethau sy’n gweithio’n wirioneddol mewn ystafelloedd dosbarth go iawn.
10:30 - 11:20
Tri arfer mewn arweinyddiaeth sy’n gwneud bywyd ysgol yn anoddach (ac yn wastraff ar eich cyllideb) — a beth i’w wneud yn lle hynny
Yn y sesiwn ymarferol, hwyliog hon, mae Sonia Gill yn dadansoddi tri arfer cyffredin sy’n anfwriadol yn creu llwyth gwaith, anghysondeb a phwysau cyllidebol.
10:30 - 11:20
“Wellbeing is a Work of Heart” – Gofalu am eich lles eich hun er mwyn i chi allu gofalu am eraill.
Ymunwch â Nina Jackson, Ymgynghorydd Iechyd Meddwl a Llesiant Rhyngwladol mewn sesiwn yn llawn syniadau ymarferol, strategaethau a deunyddiau i gefnogi eich lles eich hun yn ogystal â lles eich plant a’ch pobl ifanc.
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Hunaniaeth awtistig – Iechyd meddwl a chorfforol
Bydd y seminar yn edrych ar y daith y mae pobl yn ei gwneud tuag at hunaniaeth awtistig, ac yn archwilio a ydyw’n berthnasol i iechyd meddwl a iechyd corfforol.
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Deall a chefnogi plant a phobl ifanc gyda diagnosis deuol o ADHD ac awtistiaeth.
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar hyn ac yn canolbwyntio ar sut y gallai darpariaeth o addasiadau rhesymol helpu. Darllen mwy...
10:30 - 11:20
Cyflwyno a siarad gyda hyder a dylanwad
Yn y sesiwn ddeinamig hon, byddwch yn darganfod sut i gyflwyno eich syniadau a’ch barn gydag eglurder, hyder ac effaith.
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Dyslecsia a fi – deall dyslecsia ar gyfer staff addysg
Byddwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ddyslecsia a’r heriau a wynebir mewn addysg, gan edrych ar y canllawiau a’r diffiniadau diweddaraf.
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Ffyrdd o rymuso eich CADY
Ffyrdd o sicrhau bod Penaethiaid ac Uwch Arweinwyr yn gweithredu fel 'Ceidwaid Porth'(‘Gatekeepers’) ar gyfer y CADY yn eu hysgol fel fod pawb yn siarad yr un iaith 'ADY/AAA'.
10:30 - 11:20
Sut i fod yn berson hapus
Mae’r sesiwn yn edrych ar beth sydd ei angen mewn gwirionedd i fod yn hapus mewn bywyd a gwaith. Darllenwch mwy...
10:30 - 11:20
Cefnogi presenoldeb i ddisgyblion sy’n derbyn ‘pupil premium’
Mae'r seminar ymarferol hon yn edrych ar ffactorau allweddol sy'n cyfrannu at bresenoldeb isel ymhlith disgyblion dan anfantais.
10:30 - 11:20
10 ffordd i wella ysgrifennu yn eich ysgol
Ymunwch â'r sesiwn hon i ddarganfod sut i fynd i’r afael a chymell eich awduron ifanc!
10:30 - 11:20
Awgrymiadau gwych ar gyfer addysgu a dysgu effeithiol
Bydd y sesiwn hon yn cynnig ffyrdd ymarferol i chi ar sut i fod yn fwy effeithiol yn yr ystafell ddosbarth er gwaethaf amodau heriol iawn, gan gynnwys pwysau aruthrol ar adnoddau a diffyg amser.
10:30 - 11:20
Cymraeg creadigol: Patrymau iaith bob dydd
Darganfyddwch sut mae cerddoriaeth a chreadigrwydd yn trawsnewid y ffordd y mae plant yn dysgu a gwella eu Cymraeg. Mae’r seminar hwn yn amlygu dull hynod boblogaidd sy’n ymgorffori patrymau iaith bob dydd drwy ganeuon, rhythm a gweithgareddau creadigol.
10:30 - 11:20
Y big bocs bwyd
Mae Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn ysgol pob oed yn Nhorfaen ac maent wedi ymgymryd â phrosiect cyffrous er mwyn mynd i’r afael â lleihau effaith tlodi yn eu cymuned. Yn y sesiwn hon, fe fydd Helen Rogers yn cyflwyno rhesymeg, gweithredu ac effaith clodwiw y cynllun.
10:30 - 11:20
Atal llosgi allan mewn addysg: Cefnogi lles staff
Mae’r seminar hwn yn archwilio achosion sylfaenol llosgi allan ac yn cynnig dulliau ymarferol, ataliol i gefnogi lles staff.
12:00 – 12:50
Grymuso llythrennedd drwy dechnoleg creadigol
Mae technoleg yn aml yn cael ei weld fel rhwystr i wella canlyniadau llythrennedd. Fodd bynnag, yn y sesiwn yma bydd Mr P yn dangos sut y gall technoleg gael gwared ar y rhwystrau yma i blant a’u galluogi i ddefnyddio eu hysgrifennu yn greadigol ar gyfer amrywiaeth o gynnyrch amlgyfrwng. Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb
Speaker image
Mr P (Lee Parkinson MBE)
12:00 – 12:50
O wybodaeth am drawma i ymateb i drawma
Taith fyr a chyflym o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Ymwybodol o Drawma a sut i roi cynllun ar waith i wneud gwahaniaeth. Theorïau sylfaenol Ysgolion a Chymunedau sy’n Ymwybodol o Drawma (Trauma Informed Schools and Communities) a strategaethau i fynd adref gyda chi.
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Hyfforddiant mewn sgiliau cymdeithasol ar gyfer plant awtistig. Sut ydych chi wir yn ffitio i mewn?
Ydy hyfforddiant sgiliau cymdeithasol mewn addysg yn wirioneddol niwrogynhwysol? Edrych ar yr angen i ail-ddiffinio'r hyn a welwn fel hyfforddiant sgiliau cymdeithasol, i edrych ar anghenion pob Niwroteip, gyda'r bwriad o gynyddu dealltwriaeth a lleihau pryder. Gweithio tuag at amgylchedd Niwro-gynhwysol!
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Arwain ystafell ddosbarth niwroamrywiol.
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar hyn ac yn canolbwyntio ar sut y gallai darpariaeth o addasiadau rhesymol helpu.
12:00 – 12:50
Cyfathrebu gyda dylanwad: Helpu athrawon i ysbrydoli, dylanwadu a chael eu clywed
Bydd mynychwyr yn gadael gyda strategaethau ymarferol a thechnegau syml ond pŵerus i gynnal eu proffesiynoldeb, eu harbenigedd a’u hawdurdod yn gyson—gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u parchu.
12:00 – 12:50
‘From drifting to shifting as leaders – Conscious leadership and how it works in our organisations’
Bydd Julie yn defnyddio syniadau Jim Dethmer ‘Conscious Leadership’ i sefydlu ein hunain fel arweinwyr ac ystyried sut y gallwn newid i feddwl yn chwilfrydig a hyfforddi i wella ein lles ein hunain.
12:00 – 12:50
Seminar ADY
Adnabod anghenion addysgol arbennig a’i effaith ar gynnydd, adnoddau a llesiant
Bydd y sesiwn hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd adnabod ac ymarfer ADY a’i effaith ar adnoddau, cynnydd a lles cymuned yr ysgol.
12:00 – 12:50
Adeiladu eich tîm lles meddwl ‘(Mental Wealth’) ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth gryf
Mae'r sesiwn hon yn edrych ar sut i adeiladu Tîm Lles Meddwl (Mental Wealth Team’) sy'n cryfhau gwydnwch ac yn lleihau'r pwysau y mae addysgwyr yn aml yn ei gario’n dawel
12:00 – 12:50
Deall casineb at wragedd (misogyny) a diwylliant ‘incel’
Deall dylanwad casineb menywod ar-lein a sut mae ideolegau niweidiol yn cael eu lledaenu trwy gyfryngau cymdeithasol, gemau a fforymau ar-lein. Edrych ar y cysylltiad rhwng casineb at fenywod, perthnasoedd â chyfoedion, a diwylliant yr ysgol a sut i hyrwyddo cydraddoldeb a pharch rhwng y rhywiau.
12:00 – 12:50
Gwella darllen ar gyfer pawb drwy ddeallusrwydd artiffisial (AI): Dileu rhwystrau, codi disgwyliadau
Byddwn yn edrych ar sut i gefnogi datgodio, rhuglder a gwella dealltwriaeth drwy UDL a llythrennedd cynhwysol. Y neges yw nad ydym yn lleihau’r her, ond yn dileu’r rhwystr fel y gall pob dysgwr gael mynediad at destunau uchelgeisiol a gwneud cynnydd.
12:00 – 12:50
Rheoli’r ystafell ddosbarth: yr allwedd i hunan-arweinyddiaeth
Mewn byd sy'n cael ei ddylanwadu fwyfwy gan ddeallusrwydd artiffisial (AI), sut allwn ni feithrin yr ystod lawn o ddeallusrwydd dynol yn ein hystafelloedd dosbarth? Darllenwch mwy...
12:00 – 12:50
Meithrin cymeriad a sgiliau hanfodol drwy ddysgu yn yr awyr agored
This talk would explore how outdoor education supports development of children’s character, resilience, and independence.
12:00 – 12:50
Seminar ADY
“Myth busting AAC and what that means for supporting autistic children in your classroom”
Yn y gweithdy hwn byddwn yn archwilio beth yw’r ddealltwriaeth bresennol o AAC ac yn dad-wneud rhai mythau a all gyfyngu mynediad at AAC drwy rannu gwybodaeth a gasglwyd yn gymunedol ac ymchwil gyfredol.
12:00 – 12:50
Llyfrau darllen er pleser i blant ac anghenion dysgu ychwanegol
Trosolwg o brosiect newydd cyffrous i gyhoeddi llyfrau Cymraeg gwreiddiol i blant rhwng 7 a 12 oed sydd ac anghenion dysgu ychwanegol. Prosiect dan nawdd Adnodd i gyhoeddi 24 llyfr darllen er pleser ac adnoddau dysgu, a chyfle arbennig i weld rhagflas o gyfrolau’r gyfres.
Speaker image
Cynrychiolydd o’r Cyngor Llyfrau ac arbenigwr ADY
12:00 – 12:50
Pontio’r bwlch llythrennedd
Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ymarferol a deniadol i gryfhau llythrennedd a  darllen yn ystod y pontio rhwng cynradd ac uwchradd.
13.30 - 14.20
Adnoddau technolegol i drawsnewid eich dysgu
Bydd Mr P yn rhannu a dangos ei hoff adnoddau technolegol y mae’n ddefnyddio fel athro i leihau ei lwyth gwaith, gwella dysgu, a chael gwell canlyniadau.
Speaker image
Mr P (Lee Parkinson MBE)
13.30 - 14.20
Eich llwybr cyflymaf i wella’ch ysgol — Ac mae bron yn rhad ac am ddim
Nid yw gwelliant bob amser yn golygu mwy o arian - weithiau dim ond mwy o sylw sydd ei angen. Yn y sesiwn egnïol hon, mae Sonia Gill yn edrych ar sut mae ysgolion sy’n perfformio’n dda yn cyflymu eu cynnydd trwy amgylchynu eu hunain yn fwriadol hefo’r dylanwadau cywir.
13.30 - 14.20
Pam mae modelau rôl Cymreig yn bwysig
Mae'r seminar yn edrych ar pam mae modelau rôl Cymreig yn bwysig ar gyfer hunaniaeth, perthyn, ac ehangu dealltwriaeth disgyblion o amrywiaeth
13.30 - 14.20
Seminar ADY
Arwain darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) rhagorol.
Bydd y seminar yn tynnu sylw at bwysigrwydd arweinyddiaeth wrth gyflawni arferion rhagorol o ran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Yn ystod y sesiwn hon, byddaf yn trafod pwysigrwydd Gweledigaeth, arweinyddiaeth, adnoddau a chefnogi lles a gwybodaeth staff.
13.30 - 14.20
Sut i greu tîm hapus
Mae’r sesiwn yn edrych ar yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i greu timau hapus sy’n teimlo’n dda ac yn perfformio’n dda... Darllenwch mwy...
13.30 - 14.20
Seminar ADY
Edrych ar siarad ‘dewisol’ fel hunaniaeth gyfathrebu mewn ysgolion
Bydd y gweithdy hwn yn trafod ffyrdd ymarferol o gefnogi’r plant yn eich dosbarth/ysgol i archwilio eu hunaniaeth wrth gyfathrebu ac i gyfathrebu mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys deall capasiti cyfathrebu a defnyddio technoleg/apiau cyfathrebu.
13.30 - 14.20
Rheoli’r storm berffaith: Presenoldeb, ymddygiad, ac iechyd meddwl
Mae'r seminar yn paratoi strategaethau ymarferol i staff ysgolion i fynd i'r afael yn rhagweithiol â'r sialensau sy'n gysylltiedig â phresenoldeb, ymddygiad ac iechyd meddwl.
13.30 - 14.20
Seminar ADY
Y tu hwnt i ymddygiad: Gweld gwir ystyr mewn cyfathrebu niwroamrywiol yn y blynyddoedd cynnar
Pan fyddwn yn ail-lunio “ymddygiad heriol” fel gwybodaeth, mae popeth yn newid. Rydym yn gwahodd addysgwyr blynyddoedd cynnar i edrych ar ymddygiad o dan yr wyneb, a gweld y negeseuon y mae plant niwroamrywiol yn eu cyfleu trwy eu gweithredoedd, eu hemosiynau a'u hymatebion i'r byd o'u cwmpas.
13.30 - 14.20
“GarageBand” ar gyfer llafaredd: Llais creadigol, sgwrs a llythrennedd trwy dechnoleg cerdd.
Sesiwn ymarferol yn archwilio sut y gall “GarageBand” ar gyfer iPad roi hwb i lafaredd, llythrennedd a chreadigrwydd yn yr ystafell ddosbarth. Stiwdio recordio barod ac am ddim i ddechreuwyr gan gwmni Apple ydy Garage Band, ond dydy llawer o bobl yn gwybod ble i ddechrau!
13.30 - 14.20
Llesiant mewn natur: ail-gysylltu disgyblion yng nghanol heriau ôl-bandemig
Gan ganolbwyntio ar rôl gynyddol iechyd meddwl mewn ysgolion, bydd y sesiwn yn tynnu sylw at yr ymchwil ddiweddaraf ar ddysgu sy’n seiliedig ar fyd natur a sut mae trefnu tripiau preswyl i’r awyr agored yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant disgyblion.
13.30 - 14.20
Estyn: ychwanegu gwerth at y system addysg
Mae’r seminar codi ymwybyddiaeth hwn yn darparu trosolwg o Estyn a sut mae ein gwaith yn cefnogi’r system addysg yng Nghymru.
13:30 – 14:20 - 13.30 - 14.20
Astudiaeth Achos – Datblygu Medrau Darllen Cymraeg.
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin wedi cael eu cydnabod gan Estyn am arfer effeithiol sydd yn rhoi pwysigrwydd mawr ar weithio gyda rhieni a’r gymuned leol i godi hyder disgyblion i ddarllen trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r seminar hwn yn cyflwyno sut mae’r ysgol yn llwyddo i wneud hyn yn effeithiol
Speaker image
Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin
13.30 - 14.20
Trochi effeithiol yn y blynyddoedd cynnar
Mae Dr Sian Wyn Siencyn yn arbenigwraig yn y blynyddoedd cynnar ac yn y seminar hwn bydd yn cyflwyno sut mae trochi plant di-Gymraeg yn effeithiol yn eu blynyddoedd cyntaf yn yr ysgol.
13.30 - 14.20
Addysgu a dysgu metawybyddiaeth a hunanreoleiddio: Pecyn cymorth i athrawon
Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar sut i ddefnyddio dulliau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn gadael gyda syniadau clir a strategaethau ymarferol i’w hychwanegu at eich pecyn cymorth athrawon.
15:00 – 15:50
O ymarfer cynhwysol i ddiwylliant cynhwysol – dull ymarferol o gefnogi pob dysgwr
Mae diogelwch a chynhwysiant gwirioneddol yn yr ysgol yn seiliedig ar ymddiriedaeth, tegwch, a gweithdrefnau cyson sy’n grymuso plant, pobl ifanc a staff fel ei gilydd. Bydd creu perthnasoedd ystyrlon yn ganolbwynt i greu amgylcheddau mwy diogel a chynhwysol, gan bwysleisio’r egwyddor bod pobl yn dilyn pobl cyn dilyn rheolau. Darllen mwy...
15:00 – 15:50
Seminar ADY
“From Add-On to All-In”: Creu a gwreiddio diwylliannau sy’n cadarnhau niwroamrywiaeth yn y blynyddoedd cynnar
Mae'r sesiwn hon yn herio'r meddylfryd hwnnw ac yn eich gwahodd i symud o ‘add-on-to-all-in’ gan wreiddio cynhwysiant yng nghalon eich dulliau. 
15:00 – 15:50
“Burnout, broken belief systems & the silent collapse of educator confidence: The 2027 reset you cannot ignore”
Mae’r sesiwn yma’n datgelu’r pwysau emosiynol cudd sydd tu ôl i’r llwyth gwaith cynyddol a’r pwysau i “fod yn gryf”. Darllen mwy....
15:00 – 15:50
Newyddion ffug! Grymuso myfyrwyr mewn oes o gamwybodaeth – ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar gyfer yr ystafell ddosbarth
Mae'r seminar ryngweithiol hon yn ymchwilio i strategaethau parod ac ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
15:00 – 15:50
Mesur llwyddiant mewn ataliad ac ymyrraeth briodol
Mae'r seminar ysbrydoledig a rhyngweithiol yma yn ailddiffinio sut mae llwyddiant yn cael ei fesur yn y gefnogaeth i ymddygiad, gan symud y ffocws o ddigwyddiadau i effaith.
15:00 – 15:50
Datblygu gofodau cynhwysol a dulliau dysgu addasol ar gyfer dysgwyr dwyieithog.
Mae’r sesiwn hon yn datblygu dealltwriaeth o beth mae ‘gofodau cynhwysol’ yn ei olygu y tu hwnt i fynediad corfforol.
15:00 – 15:50
Estyn: ychwanegu gwerth at y system addysg
Mae’r seminar codi ymwybyddiaeth hwn yn darparu trosolwg o Estyn a sut mae ein gwaith yn cefnogi’r system addysg yng Nghymru.
15:00 – 15:50
Cyflwyniad i addysg Cwtch – codi ymwybyddiaeth o hyder o ran ‘Addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Mae prosiect Addysg Cwtch yn cefnogi athrawon, arweinwyr, a chymunedau ysgol gyfan i gyflwyno ‘Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) o ansawdd uchel yn hyderus. Ei nod yw helpu pob plentyn a pherson ifanc i feithrin perthnasoedd cadarnhaol sydd wedi’u gwreiddio mewn empathi, ymddiriedaeth a dealltwriaeth.
Speaker image Speaker image
Sarah Yates, Kayleigh Lloyd Thomas