Tear top Tear bottom

Pam arddangos?

Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn ddigwyddiad bythgofiadwy i bawb sy’n gwerthu i’r sectorau addysg gan gynnwys y Blynyddoedd Cynnar, Cynradd, Uwchradd, Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

Fel digwyddiad sy’n arwain y ffordd yng Nghymru yn y sector addysg, mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn darparu platfform arbennig i arddangos eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau i dros 4,000 o dderbynwyr, gan gynnig toreth o gyfleon yn ein digwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn cynnwys stondinau,nawdd,hysbysebu a chyfleoedd i siarad neu areithio.

Darllenwch yr adborth anhygoel rydym wedi’i gael…

“Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol wedi rhagori ar ein disgwyliadau.Mi wnaethom ni arddangos am y tro cyntaf ym 2019 ac roedd yn wych cyflwyno ein hunain i’r farchnad Gymraeg.Fe wnaeth ein presenoldeb yno sbarduno llawer o ddiddordeb a byddwn yn bendant yn ôl yn 2020.”
J McNeil, Account Manager, QDP Services Ltd

“Fe wnaeth ‘MPS Education’ arddangos am y tro cyntaf yn y Sioe Addysg Genedlaethol y flwyddyn hon. Roedd yn ddigwyddiad ffantastig oedd yn gadael i ni arddangos ein gwasanaethau i dderbynwyr allweddol a dylanwadwyr yn y sector addysg.
Roedd yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain i fyny at y digwyddiad yn helaeth, a rhoddwyd sylw gwych I MPS. Roedd y Sioe yn gymaint o lwyddiant i ni, fel yr ydym wedi bwcio ein stondin ar gyfer y flwyddyn nesaf.”
S Meringolo, Rheolwr Addysg, MPS Education

“Roedd yn cymaint o bleser i dderbyn yr wobr ‘Innovation’yn yr NES y llynedd.
Fe wnaethom ni fwynhau ein hunain yn y digwyddiad ond roedd y seremoni hyd yn oed yn fwy cyffrous pan gyhoeddwyd mai ni oedd yr enillwyr.Gyda balchder yr ydym yn awr yn arddangos y tlws ‘Innovation’ar silff yn ein swyddfa i bawb ei gweld.”
Scanning Pens

Gwrandewch ar fwy o negeseuon cymeradwyo gan fynychwyr yma.

Atynnu Cynulleidfa

Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn atynnu pobl o amrywiaeth eang o sectorau.Cymrwch olwg islaw ac fe welwch pwy y gallech chi gyfarfod yn y sioe nesaf:

Mae mynychwyr yn y gynulleidfa yn cynnwys:

  • Pennaethiaid
  • Dirprwy Benaethiaid
  • Timau Rheoli
  • Athrawon Dosbarth
  • Arweinwyr Pwnc
  • Penaethiaid Blwyddyn
  • Cymorthyddion dysgu
  • Cyd-lynwyr ADY
  • Arweinwyr ABCh
  • Arweinwyr Iechyd Meddwl
  • Swyddogion Teulu
  • Swyddogion Lles
  • Arweinwyr Bugeiliol
  • Swyddogion Diogelu
  • Arweinwyr Gwasanaeth Ieuenctid
  • Seicolegwyr Addysgol
  • Elusennau & Sefydliadau Plant a Phobl Ifanc
  • Therapyddion Iaith a Llafaredd
  • Gweithwyr Cymdeithasol (Plant a Theuluoedd)
  • Rheolwyr Cartrefi gofal & Gofal Maeth
  • Gwasanaethau Teuluoedd & Plant dan ofal Awdurdod Lleol
  • Cwnselwyr a Therapyddion
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Rheolwyr Meithrinfeydd
  • Rheolwyr Busnes mewn Ysgolion/Rheolwyr Cyllid
  • Staff Gweinyddol
  • Deiliaid Cyllideb Ysgol

Mwy o wybodaeth

Am fanylion llawn y pecyn a phrisiau stondinau cysylltwch â tîm y Sioe Addysg Genedlaethol ar 01766 772927 neu e-bostiwch info@nationaleducationshow.com