Amdanom
ni
Y Sioe Addysg Genedlaethol ydy’r digwyddiad addysgol sy’n arwain y ffordd yng Nghymru, ac sy’n darparu cyfleoedd a ffyrdd newydd i godi a gwella safonau, cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.
Wedi cyfres o ddigwyddiadau hynod lwyddiannus, mae’r Sioe Addysg Genedlaethol wedi ehangu, a gallwch yn awr fynychu’r Sioe yn y lleoliadau a ganlyn:
Mehefin 16eg 2023 – Venue Cymru, Llandudno
Seminarau
Digwyddiad
addysgol hanfodol
Seminarau ysbrydoledig
Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr sector, a chyfleoedd i gyfarfod amrywiaeth eang o arddangoswyr, yn wir, mae’r Sioe yn ddigwyddiad hanfodol i’r rhai sy’n gweithio o fewn y sector addysg.
Wrth ymweld â’r sioe byddwch yn:
- cael mynediad i dros 40+ o seminarau DPP
- caffael strategaethau parod & adnoddau i godi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu & chefnogi dysgwyr
- cysylltu drwy gyfleoedd rhwydweithio ardderchog hefo cyfoedion & siaradwyr
- ysbrydoli a grymuso eich staff
- treialu’r cynhyrchion/gwasanaethau diweddaraf a derbyn cynigion unigryw gan arddangoswyr
“Dyma’r ail flwyddyn i ni ddefnyddio diwrnod HMS a gadael i’n holl staff yn Ysgol Gynradd Palmerston i fynychu’r Sioe Addysg Genedlaethol. Bu’n ddiwrnod hynod werthfawr i ddiwallu anghenion DPP fy staff. Dewisodd y staff weithdai oedd yn gydnaws â blaenoriaethau cyfredol yr ysgol, yn ogystal â dewis gweithdai ychwanegol a fyddai’n gadael iddynt ddilyn trywyddau oedd o ddiddordeb personol iddyn nhw. Roedd yr holl adborth yn hynod o bositif, gyda’r staff yn barod yn hyrwyddo addysgeg dysgu trwy ymchwilio o fewn yr ysgol fel canlyniad i wrando ar syniadau a gwybodaeth gan y siaradwyr ysbrydoledig. Byddwn yn bendant yn mynychu eto’r flwyddyn nesaf. Diolch.”
K Williams, Pennaeth, Ysgol Gynradd Palmerston
Datblygiad Proffesiynol Parhaus i bawb!
Ffordd ardderchog i wneud y gorau o’ch hyfforddiant DPP ac i archwilio ein cynhyrchion & gwasanaethau.
Meddyliwch am y dyddiau, wythnosau, misoedd a blynyddoedd o addysg a fedrai gael eu hadfywio dim ond wrth fynychu un o’n sioeau. Dyma rai o’r pynciau a gyflwynir:
- Iechyd meddwl & lles
- Ymarferion Ymddygiad Gwybyddol
- Gweithgareddau dysgu Awyr Agored
- Ymarferiadau ar gyfer y cof
- Gwydnwch emosiynol
- Gweithio hefo rhieni
- Adnabyddiaeth o weledigaeth a hunan-werth
- Gwneud y broses ddysgu’n ddeniadol
- Angori sylw’r dysgwyr