Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Mae ysgolion Bro Morgannwg wedi adrodd fod sgiliau darllen ac ysgrifennu plant ar ȏl yr ysbaid cofid wedi llithro’n ȏl.Mae sgiliau llythrennedd, hyder i sgwrsio,cymryd tro,goddefgarwch,darllen ciwiau heb eiriau i gyd wedi cael eu heffeithio gyda cau ysgolion a chyfnodau clo. Mae annog plant i siarad drwy gynnal Amser Cylch bywiog a gweithredol yn hybu sgiliau cyfathrebu a mynegiant, gan anelu at hybu lles wrth ddefnyddio y fforwm ddiogel yma a strategaethau eraill. Disgrifia Jenny y camau pwysig a’r canllawiau ar gyfer Amser Cylch a phwysleisio’r Pum Sgil Cyfathrebu sydd eu hangen ar gyfer cynnal Amser Cylch. Bydd hefyd yn trafod defnyddio pypedau,technegau tawelu,peidio siarad ar draws eraill,gemau a gweithgareddau i helpu gyda bod yn rhan o dîm ac ennyn perthynas llawn parch.
(Sesiwn cyfrwng Saesneg)
Jenny Mosley
Ymgynghorydd Addysg ac awdur
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.