Seminarau Llandudno 2027
Ein Seminarau
Trefnu yn ôl amser
Trefnu yn ôl amser
Clir
09:00 - 09:50
Hapusrwydd yn Gyntaf: 14 Arfer sy’n Tanseilio Eich Llawenydd a Sut i’w Adfer!
Drwy gymysgedd o hiwmor, stori, niwrowyddoniaeth a strategaethau ymarferol, byddwch yn gadael yn teimlo'n fwy positif, yn llawn egni ac yn barod i wneud mwy o'r pethau sy'n dod â llawenydd i'ch bywyd, i ddiogelu eu llawenydd, ailgysylltu â'u pwrpas, creu ffiniau iachach a ffynnu mewn bywyd, gwaith a pherthnasoedd.
09:00 - 09:50
Daliwch y Rhaff: Troi Cynghreiriaeth yn Weithredu Bob Dydd
Sesiwn bwerus a chofiadwy sy'n canolbwyntio ar symud o fwriadau da i gynghreiriaeth ymarferol, gan helpu staff i herio allgáu, cefnogi cydweithwyr ac eirioli dros ddisgyblion a all deimlo eu bod ar yr ymylon neu heb eu cynnwys yn llawn.
09:00 - 09:50
Y Creigiau Cudd: Sut mae rhagfarnau gwybyddol yn dylanwadu ar benderfyniadau diogelu
Mae'r seminar hon yn archwilio'r rhagfarnau gwybyddol cudd a all ddylanwadu ar farn broffesiynol a phenderfyniadau diogelu, gan gynnwys tuedd i gadarnhau, meddwl grŵp, tuedd i awdurdod, tuedd argaeledd a'r effaith halo.
09:00 - 09:50
Seminar ADY
Ymddygiad yw Cyfathrebu: Deall y Neges y Tu Ôl i’r Ymddygiad
Bydd y sesiwn hon yn archwilio ymddygiad o safbwynt hunanreoleiddio'r system nerfol, diogelwch emosiynol a niwroamrywiaeth, gan helpu cyfranogwyr i wahaniaethu rhwng heriau cydymffurfio a thrallod go iawn.
09:00 - 09:50
Malio am Yma: Cynefin, Chwilfrydedd a Chwricwlwm sy’n Cyfrif
Gan ddefnyddio enghreifftiau ymarferol o'r ystafell ddosbarth, bydd Hywel Roberts yn dangos sut y gall stryd gyffredin, tirwedd, gwrthrych, ffotograff neu stori leol fod yn fan cychwyn ar gyfer dysgu cyfoethog ar draws y cwricwlwm.
09:00 - 09:50
Seminar ADY
Hunanreoleiddio, Cymhelliant ac Ymgysylltiad: Ailfeddwl ynghylch parodrwydd i ddysgu mewn cyd-destunau ADY/SEND
Mae'r sesiwn ymarferol hon yn archwilio'r berthynas rhwng hunanreoleiddio, cymhelliant, ymgysylltiad â dysgu a chynnydd dysgwyr. Byddwn yn ystyried sut y gall gwahaniaethau synhwyraidd, cyfathrebu, perthnasoedd a gofynion gwybyddol ddylanwadu ar allu dysgwr i gymryd rhan mewn dysgu.
09:00 - 09:50
Addysgu a Dysgu- Ysgol Llanfairpwll
Byddwn yn craffu ar unedau penodol o waith yr ydym wedi eu creu gan egluro'r dulliau addysgu a dysgu yr ydym wedi eu datblygu a'u hyrwyddo gan gyfeirio at yr ymchwil sydd yn sail i'n syniadau.
09:00 - 09:50
Darparu ar gyfer y disgybl cyfan
Bydd y cyflwyniad yn cynnig cipolwg o'r strategaethau mae'r ysgol yn defnyddio er mwyn cyrraedd y nod yma, strategaethau sydd wedi eu adnabod fel arfer dda mewn ymweliad gan Estyn.
09:00 - 09:50
Y Tu Hwnt i Flinder Proffesiynol (Burnout): Sut i Greu Ysgol Lle Mae Staff yn Ffynnu, yn Aros ac ar eu Gorau
Mae'r seminar ymarferol hon yn archwilio sut y gall arweinwyr ysgolion symud y tu hwnt i fentrau llesiant unigol a meithrin diwylliant lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u galluogi i ffynnu. Byddwch yn darganfod strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n cryfhau gwydnwch, yn hybu morâl ac yn meithrin diwylliant gwaith cadarnhaol, heb ychwanegu at lwyth gwaith staff.
09:00 - 09:50
Nid y Gyllideb sy’n Dal Eich Ysgol yn Ôl… Dyma yw’r Broblem…
Byddai mwy o arian o fudd i unrhyw ysgol, ac nid oes neb yn awgrymu’n wahanol. Ond wrth i bwysau ariannol gynnyddu, ac er bod tystiolaeth yn dangos nad yw cyllid ychwanegol ar ei ben ei hun yn gwarantu gwelliant parhaus, beth arall all wneud gwahaniaeth?
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Y 5 Strategaeth Allweddol ar gyfer Arwain Ystafell Ddosbarth Niwroamrywiol
Yn y seminar ryngweithiol hon, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, byddwn yn edrych ar bum strategaeth allweddol: addasu dulliau cyfathrebu, creu amgylcheddau dysgu cefnogol, cefnogi hunanreoleiddio sylw, cryfhau gweithrediadau gweithredol a’r cof, a lleihau pryder ymhlith dysgwyr.
10:30 - 11:20
Mwy na Dim ond Awyr Iach: Llesiant yn y Dosbarth Awyr Agored
Bydd y sesiwn yn cyfuno sail ymchwil gadarn â strategaethau a syniadau ymarferol ar gyfer athrawon ar draws gwahanol gyfnodau, pynciau a lleoliadau addysgol, gan gynnwys ysgolion sydd â mynediad
10:30 - 11:20
Dod â’r Wefr yn Ôl!
Bydd y sesiwn hon yn cynnig strategaethau ymarferol i ailgynnau chwilfrydedd yn yr ystafell ddosbarth a gwneud i ddysgwyr fod eisiau dysgu a bod dysgwyr ac athrawon yn teimlo'r wefr eto.
10:30 - 11:20
Seminar ADY
Pam eu bod yn gwybod beth i’w wneud… ond yn dal methu ei wneud?
Bydd y sesiwn yn cynnig strategaethau ymarferol y gellir eu defnyddio ar unwaith i leihau'r baich gwybyddol, datblygu annibyniaeth, a chefnogi dysgwyr niwroamrywiol i gael mynediad at ddysgu yn fwy llwyddiannus.
10:30 - 11:20
Dysgu yn gyntaf, technoleg yn ail
Bydd y seminar hon yn edrych ar sut gallwn wneud dewisiadau doeth ynghylch defnyddio technoleg. Byddem yn trafod sut y gall ymarferwyr wneud dewisiadau pwrpasol am dechnoleg, gan sicrhau bod anghenion dysgwyr a bwriadau addysgiadol yn llywio'r defnydd o offer digidol.
10:30 - 11:20
Gosod Sylfaen Trochi Iaith yn y Blynyddoedd Cynnar
Dysgu am y Dull Trochi, sut mae Cynllun Croesi’r Bont yn cefnogi trochi plant ifanc yn y Gymraeg, a deall pwysigrwydd a dulliau pontio effeithiol rhwng y Cylch Meithrin a’r Ysgol Gynradd.
10:30 - 11:20
Hunanafarnu o Ansawdd Uchel a Gwella Ysgolion
Mae'r sesiwn ymarferol hon yn archwilio egwyddorion allweddol hunanfarnu o ansawdd uchel, gan gynnwys beth i'w arfarnu, sut i gasglu tystiolaeth ystyrlon, pwy ddylai gyfrannu at y broses a phryd.
10:30 - 11:20
O Ddrama i Bresenoldeb: System Weithredu Newydd ar gyfer Arweinyddiaeth Ysgol
Bydd y seminar ymarferol, egniol hon yn cyflwyno egwyddorion craidd Arweinyddiaeth Ymwybodol (Conscious Leadership), gan eich helpu i adnabod ymatebion llai defnyddiol a dewis ffyrdd mwy adeiladol o symud ymlaen
10:30 - 11:20
Gwella Darllen gyda Deallusrwydd Artiffisial: Strategaethau diogel ac ymarferol ar gyfer pob dysgwr
Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gall athrawon ar draws pob cyd-destun addysgol ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) yn ddiogel ac yn bwrpasol i godi safonau ar gyfer pob dysgwr.
10:30 - 11:20
Pan Fo Anghytuno: Ymdrin â Sgyrsiau Anodd yn Hyderus
Mae'r seminar ymarferol hon yn archwilio sut i ymateb yn hyderus gyda phobl anodd, mynd i'r afael â sgyrsiau heriol, a lleihau gwrthdaro cyn iddo waethygu.
10:30 - 11:20
Mwy na Dysgu Tu Allan: Gwneud yr Amgylchedd Awyr Agored yn Rhan Weithredol o’r Dysgu
Yn y gweithdy ymarferol a bywiog hwn, bydd y cyfranogwyr yn profi ystod o heriau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm, gan archwilio meysydd megis mathemateg, llythrennedd, gwyddoniaeth a chreadigrwydd. Drwy brofiadau gweithredol ac ymgysylltiol, byddwn yn archwilio sut y gall yr amgylchedd ei hun lywio’r dysgu, tanio chwilfrydedd a chreu cyfleoedd ystyrlon i blant feddwl, ymchwilio a datrys problemau.
12:00 - 12:50
Creu Velcro mewn Diwylliant Diogelu
Byddwn yn archwilio sut y gall diwylliant diogelu cryf weithredu fel y "Velcro" sy'n atal arferion gwael rhag cydio a dod yn rhan o'r drefn. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda dulliau ac adnoddau ymarferol i asesu risg, herio hunanfodlonrwydd a chryfhau diwylliant diogelu cadarn, lle mae pryderon yn cael eu hadnabod, eu trafod a gweithredu arnynt yn brydlon.
12:00 - 12:50
Arweinyddiaeth Feiddgar ar gyfer Cynhwysiant: Pan fo Diwallu Anghenion Pob Disgybl yn Galw am Wneud Pethau’n Wahanol
Mae'r sesiwn hon yn archwilio sut y gall arweinwyr a Chydlynwyr ADY greu diwylliant lle mae cynhwysiant, tegwch a pherthyn yn gyfrifoldeb ar y cyd i bawb.
12:00 - 12:50
Seminar ADY
Mewnwelediadau gan Athro Awtistig: Diwallu Anghenion Plant Awtistig mewn Ysgolion
Bydd y seminar yma yn edrych ar brofiad addysg o safbwynt person awtistig ac yn archwilio ffyrdd o wella’r profiad o ysgol i blant a phobl ifanc sy'n dysgu ac yn profi'r byd mewn ffordd wahanol.
12:00 - 12:50
Pan Fo Anghytuno: Ymdrin â Sgyrsiau Anodd yn Hyderus
Mae'r seminar ymarferol hon yn archwilio sut i ymateb yn hyderus gyda phobl anodd, mynd i'r afael â sgyrsiau heriol, a lleihau gwrthdaro cyn iddo waethygu.
12:00 - 12:50
Deallusrwydd Artiffisial, Perthyn a Dyfodol Addysg Ddynol
Yn y seminar ysgogol ac ymarferol yma, mae Joanne Lockwood yn archwilio sut y gall arweinwyr addysg gofleidio Deallusrwydd Artiffisial heb golli ymddiriedaeth, tegwch, ymdeimlad o berthyn na chysylltiad dynol.
12:00 - 12:50
Pan Fydd Pob Ymddygiad yn Adrodd Stori: Strategaethau Ymarferol i Gefnogi Dysgwyr ag Anghenion Iechyd Meddwl Cynyddol
Bydd y seminar ddiddorol ac ymarferol hon yn cynnig strategaethau syml, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i staff ysgolion i'w helpu i adnabod arwyddion cynnar o drallod emosiynol, ymateb yn hyderus a chreu amgylcheddau dysgu sy'n ddiogel yn emosiynol lle gall dysgwyr ffynnu.
12:00 - 12:50
Gadewch i Ni Ddweud… Stori, Sgwrs a ‘Botheredness’ yn y Cwricwlwm i Gymru
Yn y sesiwn ymarferol a bywiog hon, mae Hywel Roberts yn archwilio sut y gall stori, sgwrs a dychymyg ddod â'r Cwricwlwm i Gymru yn fyw.
12:00 - 12:50
Yr Ystafell Ddosbarth y Maent yn Ei Chofio: Creu Diwylliant y Mae Plant yn Caru Bod yn Rhan Ohono, Heb Golli Eich Hun
Gan dynnu ar dros ddegawd o brofiad mewn dosbarthiadau cynradd, byddaf yn archwilio sut y gall athrawon ddefnyddio eu cryfderau, eu diddordebau a'u personoliaeth eu hunain wrth wahodd dysgwyr i gyd-lunio hunaniaeth gyffredin ar gyfer eu dosbarth.
12:00 - 12:50
Y Gwyddoniaeth a’r Seicoleg tu ol i Ddysgu Ddarllen
Yn y seminar hwn, bydd Dr Manon Jones yn archwilio’r wyddoniaeth a’r seicoleg sy’n sail i ddatblygiad darllen, gan edrych ar y prosesau gwybyddol sy’n galluogi plant i symud o adnabod seiniau a geiriau i ddarllen yn fwy rhugl, deallus ac annibynnol.
12:00 - 12:50
Hyder i Ffynnu: Offer Ymarferol i Gefnogi Iechyd a Lles Dysgwyr
Yn y seminar ymarferol a rhyngweithiol hwn, bydd Dyddgu Morgan-Hywel yn archwilio sut y gall addysgwyr feithrin hyder dysgwyr, cryfhau eu gwytnwch a chefnogi eu hiechyd a'u lles drwy ddefnyddio dulliau hyfforddi effeithiol.
12:00 - 12:50
Mwy na Dysgu Tu Allan: Gwneud yr Amgylchedd Awyr Agored yn Rhan Weithredol o’r Dysgu
Yn y gweithdy ymarferol a bywiog hwn, bydd y cyfranogwyr yn profi ystod o heriau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm, gan archwilio meysydd megis mathemateg, llythrennedd, gwyddoniaeth a chreadigrwydd. Drwy brofiadau gweithredol ac ymgysylltiol, byddwn yn archwilio sut y gall yr amgylchedd ei hun lywio’r dysgu, tanio chwilfrydedd a chreu cyfleoedd ystyrlon i blant feddwl, ymchwilio a datrys problemau.
13:30 - 14:20
Seminar ADY
Emosiynau Mawr, Atebion Ymarferol: Deall y Parthau Rheoleiddio Emosiynol
Mae'r seminar ymarferol hon yn archwilio sut mae datblygiad yr ymennydd, niwrowahaniaeth ac amgylcheddau dysgu yn dylanwadu ar ymatebion emosiynol.
13:30 - 14:20
Adeiladu Diwylliant Hyfforddi: Sut i ddefnyddio hyfforddiant i rymuso cydweithwyr a sbarduno gwelliant ysgol gyfan
Bydd y seminar ymarferol hon yn archwilio sut y gall hyfforddiant rymuso cydweithwyr, cryfhau arweinyddiaeth a gwella perfformiad ar draws ysgolion. Darganfyddwch sut y gall penaethiaid ddefnyddio hyfforddiant i gefnogi arweinwyr academaidd, bugeiliol  a chynhwysiad; sut y gall uwch arweinwyr drafod y cwricwlwm a data gyda arweinwyr canol, a sut y gall arweinwyr canol ddefnyddio dulliau hyfforddi yn dilyn arsylwadau dysgu ac addysgu.
13:30 - 14:20
Seminar ADY
ADHD, Awtisitiaeth a Llythrennedd: Cefnogi Plant a Phobl Ifanc yn yr Ystafell Ddosbarth
Yn y seminar ryngweithiol hon, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, byddwn yn archwilio strategaethau ymarferol i greu amgylchedd dosbarth sy'n cefnogi datblygiad darllen ac ysgrifennu plant a phobl ifanc ag awtistiaeth a/neu ADHD.
13:30 - 14:20
Cadw i Fyny ynteu Ddal i Fyny? Sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd mewn Mathemateg
Mae'r sesiwn ymarferol hon yn archwilio dau ddull cyflenwol: helpu dysgwyr i gadw i fyny drwy addysgu ymatebol, asesu, ailymweld yn bwrpasol a chymorth amserol; a helpu dysgwyr i ddal i fyny pan fo bylchau sylweddol mewn dealltwriaeth eisoes wedi datblygu.
13:30 - 14:20
Mae Presenoldeb yn Dechrau gydag Ymdeimlad o Berthyn: Strategaethau ymarferol i leihau absenoldeb
Yn y seminar ymarferol hon, bydd Ian yn tynnu ar ei brofiad fel arweinydd ysgol ac ymgynghorydd gwella ysgolion i archwilio’r cysylltiadau rhwng presenoldeb, ymdeimlad o berthyn, ymddygiad a diogelu.
13:30 - 14:20
Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Ashoka UK Paratoi Pobl Ifanc ar gyfer Byd sy’n Newid yn Gyflym: Pob Plentyn yn Wneuthurwr Newid
Sut y gall ysgolion helpu pobl ifanc i ddatblygu empathi, ymdeimlad o gyfrifoldeb a gallu i weithredu, gwaith tîm a’r hyder i greu newid cadarnhaol, gan eu harfogi i ffynnu mewn byd sy’n newid yn gyflym, yn enwedig un sy’n cael ei lunio fwyfwy gan ddeallusrwydd artiffisial (AI).
13:30 - 14:20
Creu a Chynnal yr Amodau i Ffynnu: Dysgu o Ddull sy’n Ystyriol o Drawma a Phrofiadau Adfydus Plentyndod yng Nghymru
Bydd y sesiwn hon yn ystyried sut y gallwn, drwy fabwysiadu dull sy’n ystyriol o drawma ac ACEs (Profiadau Adfydus Plentyndod) o fewn y system addysg, greu’r amodau sydd eu hangen i feithrin gobaith ymhlith plant, pobl ifanc, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gweithio mor galed i’w cefnogi.
13:30 - 14:20
Pam Nad Yw Copïo Ysgolion Eraill yn Gweithio (Ond Mae Hyn yn …!)
Bydd y sesiwn hon yn datgelu beth yw'r cam allweddol hwnnw trwy enghreifftiau go iawn o syniadau a lwyddodd, y rhai a fu’n fethiant, a beth yn union oedd yn gwneud y gwahaniaeth.
13:30 - 14:20
Arfer dda o ddatblygu medrau darllen
Yn y seminar hwn byddwn yn rhannu arferion effeithiol mewn datblygu medrau darllen yn y sector cynradd.
13:30 - 14:20
AI ac Addysg: Datgloi Amser ar gyfer yr Hyn Sy’n Bwysig
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y gall athrawon ac arweinwyr ddefnyddio offer AI mewn ffordd ddiogel, gyfrifol ac effeithiol i gefnogi tasgau dyddiol megis cynllunio gwersi, creu adnoddau dysgu, addasu deunyddiau ar gyfer gwahanol alluoedd, paratoi asesiadau a drafftio cyfathrebiadau.
13:30 - 14:20
Un Tro Allan ar y Cae Chwarae: Does dim rhai bod yn storïwr, ond cael llygad am stori
Yn y gweithdy ymarferol a chyfranogol hwn, bydd cyfranogwyr yn profi sut y gall yr awyr agored danio a llunio straeon. Drwy lên gwerin, edrych yn nes ar y byd o'n cwmpas a heriau syml i greu straeon, bydd cyfranogwyr yn darganfod sut y gall mannau cyffredin danio chwilfrydedd, dychymyg a chreadigrwydd.
15:00 - 15:50
Y Tu Hwnt i Chatbots: Canllaw i Athrawon ar DA Asentol mewn Addysg
Mae'r seminar ymarferol a blaengar hon yn gwahanu'r ffeithiau oddi wrth y ffasiynau i archwilio beth allai DA Asentol ei olygu i athrawon ac ysgolion.
15:00 - 15:50
Addysgu gyda DA heb Golli’r Dysgu: Strategaethau Ymarferol o Wyddor Dysgu
Gan symud o ddamcaniaeth i ymarfer, mae'r sesiwn hon yn defnyddio egwyddorion gwyddor dysgu a metawybyddiaeth i archwilio dulliau ymarferol o gefnogi dysgu gyda chymorth DA.
15:00 - 15:50
Mathemateg mewn Dosbarthiadau Cymysg eu Hoedran heb Ddyblu’r Gwaith: Gwneud Mathemateg Gymysg ei Hoedran yn Hylaw
Mae'r sesiwn ymarferol hon yn archwilio sut y gall athrawon nodi'r cysylltiadau rhwng gwahanol themâu mathemategol, sefydlu mannau cychwyn cyffredin a darparu lefel briodol o her i ddysgwyr sydd ar gamau gwahanol yn eu dysgu.
15:00 - 15:50
Seminar ADY
Datblygu Delwedd Gadarnhaol o’r Hunan ymhlith Disgyblion Niwrowahanol
Bydd y seminar hon yn helpu staff i adnabod arwyddion o hunan-ganfyddiad negyddol mewn plant niwrowahanol ac archwilio ffyrdd ymarferol o'u helpu i ddatblygu hunan-barch a meithrin y ddelwedd gadarnhaol ohonynt eu hunain y maent yn ei haeddu.
15:00 - 15:50
CAL:ON Cymru: Cryfhau Llythrennedd ledled Cymru
Bydd y sesiwn ymarferol hon yn cefnogi arweinwyr ysgolion ac ymarferwyr i ddatblygu dull cydlynol, ysgol gyfan o ymdrin â llythrennedd. Gan dynnu ar fframwaith llythrennedd strwythuredig cenedlaethol CAL:ON Cymru, byddwn yn archwilio sut mae ysgolion ledled Cymru yn gwella deilliannau darllen ac ysgrifennu drwy addysgu gyfarwyddir gan dystiolaeth, asesu ac ymyrryd.
15:00 - 15:50
Gwireddu Cynhwysiant: Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac Addysgu o Ansawdd Uchel ar Waith
Bydd y sesiwn ymarferol hon yn archwilio sut y gall Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) helpu ymarferwyr i gynllunio dysgu sy'n hyblyg, yn hygyrch ac yn uchelgeisiol ar gyfer bob dysgwr.
15:00 - 15:50
Dysgu: Y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer datblygu rhifedd
Yn y cyflwyniad hwn, bydd swyddog dysgu, Rhian Carruthers sydd a phrofiad helaeth o arwain Mathemateg a Rhifedd yn amlinellu’r cymorth sydd ar gael i ysgolion er mwyn cryfhau datblygiad mathemateg a rhifedd ar draws pob maes dysgu a phrofiad.
15:00 - 15:50
Cynnig Cenedlaethol i’r Gweithlu Addysg
Bydd cyfle i’r cyfranogwyr ar y dydd gofrestru ar gwrs gan holi pa lefel sy’n addas ar eu cyfer. Bydd cyfle iddyn nhw gael blas ar yr amrywiaeth cyrsiau yn ystod y sesiwn, a bod y cyflwyniad hefyd yn cynnwys elfen ar gynllunio’r gweithlu i gwrdd â gofynion y ddeddf gan baratoi ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy iaith ac ysgolion cyfrwng Cymraeg at y newidiadau.
Speaker image
Cynrychiolydd o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol