Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Sut y gall y mannau o’n cwmpas ysbrydoli straeon? Yn y gweithdy ymarferol a chyfranogol hwn, bydd cyfranogwyr yn profi sut y gall yr awyr agored danio a llunio straeon. Drwy lên gwerin, edrych yn nes ar y byd o’n cwmpas a heriau syml i greu straeon, bydd cyfranogwyr yn darganfod sut y gall mannau cyffredin danio chwilfrydedd, dychymyg a chreadigrwydd. Byddant yn gadael gyda syniadau ymarferol ar gyfer defnyddio storïau yn eu cyd-destunau eu hunain, gan helpu plant i gysylltu â’u cynefin a gweld straeon newydd yn y mannau mwyaf cyfarwydd.
Nodwch bydd y seminar hon tu allan.
Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb
Carol Murdoch
Addysgwraig awyr agored, storïwr ac awdures arobryn
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.