Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Nid drwy ymyraethau ar wahân y mae cynhwysiant yn digwydd, ond drwy’r penderfyniadau a wneir bob dydd yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y sesiwn ymarferol hon yn archwilio sut y gall Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) helpu ymarferwyr i gynllunio dysgu sy’n hyblyg, yn hygyrch ac yn uchelgeisiol ar gyfer bob dysgwr.
Drwy enghreifftiau ymarferol o’r ystafell ddosbarth, bydd cyfranogwyr yn ystyried sut y gall deallusrwydd artiffisial (AI), technoleg gynorthwyol a dulliau addysgu cynhwysol ymateb i amrywioldeb dysgwyr gan gynnal disgwyliadau uchel i bawb.
Bydd y sesiwn yn rhannu strategaethau ymarferol, syniadau cynllunio ac adnoddau myfyrio y gellir eu rhoi ar waith yn syth, Y nod yw cefnogi ysgolion i gryfhau eu cynnig cyffredinol a gwneud cynhwysiant yn rhan annatod o addysgu a dysgu o ddydd i ddydd, yn hytrach na’i ystyried fel ychwanegiad ar wahân.
Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb
Dr Sarah Moseley
Ymgynghorydd Addysgol ac Arbenigwraig mewn Cynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Datblygiad Llythrennedd
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.