Cadw i Fyny ynteu Ddal i Fyny? Sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd mewn Mathemateg

Sut gallwn atal bylchau bach mewn dealltwriaeth fathemategol rhag dod yn rhwystrau i ddysgu yn y dyfodol?

Mae’r sesiwn ymarferol hon yn archwilio dau ddull cyflenwol: helpu dysgwyr i gadw i fyny drwy addysgu ymatebol, asesu, ailymweld yn bwrpasol a chymorth amserol; a helpu dysgwyr i ddal i fyny pan fo bylchau sylweddol mewn dealltwriaeth eisoes wedi datblygu. Byddwn yn ystyried sut i adnabod camddealltwriaethau’n gynnar, pryd y gall fod angen i ddysgwyr ail-ymweld â dysgu blaenorol er mwyn sicrhau sylfeini mathemategol cadarn, a sut y gall dulliau wedi’u targedu, megis Pont Mathemateg Cymru, ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda strategaethau ymarferol i gefnogi cynnydd ac i ddiwallu anghenion dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb

Toni Priddey 

Ymgynghorydd Mathemateg – First4Maths Academy