AI ac Addysg: Datgloi Amser ar gyfer yr Hyn Sy’n Bwysig

Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn cynnig cyfleoedd ymarferol i leihau llwyth gwaith staff ysgolion a rhyddhau mwy o amser ar gyfer yr hyn sy’n cael yr effaith fwyaf ar ddysgwyr. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut y gall athrawon ac arweinwyr ddefnyddio offer AI mewn ffordd ddiogel, gyfrifol ac effeithiol i gefnogi tasgau dyddiol megis cynllunio gwersi, creu adnoddau dysgu, addasu deunyddiau ar gyfer gwahanol alluoedd, paratoi asesiadau a drafftio cyfathrebiadau.

Iaith: Cymraeg | Cynulleidfa: Pawb

Daron Harris

STEM Learning