Hunanreoleiddio, Cymhelliant ac Ymgysylltiad: Ailfeddwl ynghylch parodrwydd i ddysgu mewn cyd-destunau ADY/SEND

Beth sy’n digwydd pan fo gan ddysgwr y gallu gwybyddol i ddysgu, ond nad yw eto mewn cyflwr o hunanreoleiddio, wedi’i gymell nac yn gallu ymgysylltu’n llawn â’r dysgu?

Mae’r sesiwn ymarferol hon yn archwilio’r berthynas rhwng hunanreoleiddio, cymhelliant, ymgysylltiad â dysgu a chynnydd dysgwyr. Byddwn yn ystyried sut y gall gwahaniaethau synhwyraidd, cyfathrebu, perthnasoedd a gofynion gwybyddol ddylanwadu ar allu dysgwr i gymryd rhan mewn dysgu. Byddwn hefyd yn herio’r rhagdybiaeth fod diffyg ymgysylltiad bob amser yn arwydd o anallu neu ymddygiad heriol. Bydd cyfranogwyr yn archwilio addasiadau ymarferol sy’n cynnal disgwyliadau uchel ac uchelgais, wrth leihau rhwystrau i ddysgu. Y nod yw datblygu dealltwriaeth ddyfnach o anghenion dysgwyr fel y gellir darparu cymorth sy’n hyrwyddo cyfranogiad, cynnydd ac ymdeimlad o berthyn i bob dysgwr.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb

Emma Noel Pinnock 

Grwp Essential Education Group