Cynnwys rhieni mewn ymyrraeth

Gall ymgysylltiad rhieni mewn addysg fod o fudd i gyrhaeddiad, presenoldeb a chymhelliant plant.

Gall gwella perthynas rhwng y cartref a’r ysgol helpu i fynd i’r afael â phroblemau’n brydlon a datblygu strategaethau effeithiol i gefnogi dysgu’r plentyn.

Mae rhieni sy’n ymgysylltu yn gallu creu amgylchedd dysgu ffafriol yn y cartref sy’n annog ac atgyfnerthu pwysigrwydd addysg.

Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at ddatblygiad cyffredinol plant, gan gynnwys twf emosiynol a chymdeithasol.

Bydd y sesiwn yn;
• Trafod heriau ymgysylltu â rhieni, ynghyd â ffyrdd o oresgyn y rhain a’r deilliannau o wneud hynny.
• Cyflwyno ymyrraeth rydym yn danfon a gwerthuso sy’n cynnwys elfennau ar gyfer rhieni er mwyn annog perthynas rhwng y cartref a’r ysgol.

 

Dr Margiad Williams

Dr Anwen Rhys Jones