Deall a chefnogi plant a phobl ifanc gyda diagnosis deuol o ADHD ac awtistiaeth.

Yn y sesiwn hon, byddaf yn edrych ar y cynnydd yn nifer y diagnosis o AuDHD. Mae astudiaethau’n awgrymu bod rhwng 30–50% o blant a phobl ifanc sydd â’r naill ddiagnosishefyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y llall. Bydd y sesiwn yn edrych ar sut yr ydym yn deall y diagnosis deuol hwn—ydy o’n ddau gyflwr ar wahân? Ydy’r cyflyrau’n gwrthdaro? Neu, yn fwy realistig, a ydy o’n gyflwr niwrowybyddol unigryw lle mae’r elfennau awtistig a’r elfennau ADHD yn golygu y byddant yn ymddangos yn wahanol? Bydd y sesiwn yn cynnig strategaethau ymarferol i weithwyr addysg, gan gynnwys ystyried yr amgylchedd, cof, anghenion synhwyraidd, a ffyrdd o reoleiddio a dal sylw.

Iaith – Saesneg | Cynulleidfa – Pawb

Colin Foley

Prif Swyddog Gweithredol, Neurodiversity Training UK