Cyflwyno a siarad gyda hyder a dylanwad

Yn y sesiwn ddeinamig hon, byddwch yn darganfod sut i gyflwyno eich syniadau a’ch barn gydag eglurder, hyder ac effaith. Gan ddefnyddio methodoleg SuperStar Communicator™, byddaf yn eich arwain drwy elfennau hanfodol cyfathrebu pwrpasol—deall eich cynulleidfa, strwythuro negeseuon yn effeithiol, paratoi i bwrpas, perfformio hefo hyder, a defnyddio eich llais gydag awdurdod. Bydd addysgwyr yn dysgu technegau ymarferol i ymgysylltu ag eraill, dylanwadu ar wneud penderfyniadau, a sicrhau bod eu harbenigedd yn cael ei glywed a’i barchu. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda mwy o hyder a chasgliad o strategaethau syml ond pŵerus i gyfathrebu’n fwy effeithiol mewn cyfarfodydd, cyflwyniadau a sgyrsiau bob dydd.

Iaith – Saesneg | Cynulleidfa – Pawb

Susan Heaton-Wright

Sylfaenydd – SuperStar Communicator