“Clicks”: Helpu pobl ifanc i fod ar eu gorau ar-lein

Mae mwy o ddisgwyliadau nag erioed o’r blaen i ysgolion ddysgu’r sgiliau meddwl beirniadol a llythrennedd gwyddonol sydd eu hangen ar bobl ifanc i lywio’r byd ar-lein. Ond beth yw’r rhain? A sut gellir eu hymgorffori yn yr ystafell ddosbarth? Yn y seminar bydd Natasha Devon MBE (awdur “Clicks: How to Be Your Best Self Online for teenagers and educator on social media for young people”) yn amlinellu rhai o’r egwyddorion allweddol a chanllawiau ymarferol i athrawon a staff.

Gan gynnwys: Deall sut mae pobl ifanc yn gweld y cyfryngau cymdeithasol, eu helpu i fod yn ddefnyddwyr gweithredol a mynd i’r afael â radicaleiddio/casineb menywod.

Iaith – Saesneg | Cynulleidfa – Cynradd (blynyddoedd 5 a 6), Uwchradd, Addysg Bellach.

Natasha Devon MBE

Ymgyrchydd Iechyd Meddwl ac Addysgwr, Awdur a Darlledwr