Newyddion ffug! Grymuso myfyrwyr mewn oes o gamwybodaeth – Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau ar gyfer yr ystafell ddosbarth

Mewn byd lle mae cyfryngau cymdeithasol a dylanwadwyr yn aml yn llunio’r hyn y mae pobl ifanc yn ei gredu, sut allwn ni eu paratoi i feddwl yn feirniadol, cwestiynu’n hyderus, a gwahaniaethu ffaith oddi wrth ffuglen? Mae’r seminar ryngweithiol hon yn ymchwilio i strategaethau parod ac ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth ar gyfer addysgu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Byddwch yn edrych ar weithgareddau deniadol sy’n helpu myfyrwyr i ddatgodio cynnwys digidol, adnabod rhagfarn, a dod yn ddefnyddwyr gwybodus  a chrewyr cyfrifol o’r cyfryngau. P’run ai ydych chi’n newydd i ymwybyddiaeth o’r cyfryngau neu’n awyddus i wella eich dealltwriaeth, bydd y sesiwn yn rhoi syniadau ysbrydoledig a thechnegau ymarferol i chi fydd yn helpu eich dysgwyr i lywio tirwedd cymhleth y cyfryngau heddiw.

Iaith – Saesneg | Cynulleidfa – Pawb

Nicky Hagendyk

Ymgynghorydd Addysg