Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Byddai mwy o arian o fudd i unrhyw ysgol, ac nid oes neb yn awgrymu’n wahanol. Ond wrth i bwysau ariannol gynnyddu, ac er bod tystiolaeth yn dangos nad yw cyllid ychwanegol ar ei ben ei hun yn gwarantu gwelliant parhaus, beth arall all wneud gwahaniaeth?
Mae un ffactor sy’n gallu cael mwy o effaith ar welliant ysgol na mwy o arian yn unig, ac mae eisoes ar gael ymhob ysgol. Bydd y seminar ysgogol ac ymarferol hon yn datgelu beth yw’r dylanwad hwnnw, yn archwilio’r dystiolaeth sy’n sail iddo ac yn dangos sut y gellir ei ddefnyddio yn effeithiol. Bydd cyfranogwyr hefyd yn darganfod cyfrifiad syml y gallant ei ddefnyddio i gryfhau sefyllfa ariannol eu hysgol, hyd yn oed cyn diwedd y sesiwn.
Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb
Sonia Gill
CEO Heads Up Limited
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.