Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Nid diffyg syniadau sy’n her i arweinyddiaeth ysgolion, ond diffyg presenoldeb. O dan bwysau diwrnod ysgol prysur, mae’n hawdd cael ein dal mewn cylchoedd o feio, amddiffyn neu geisio datrys problemau sy’n fwy priodol i eraill fynd i’r afael â nhw. Bydd y seminar ymarferol, egniol hon yn cyflwyno egwyddorion craidd Arweinyddiaeth Ymwybodol (Conscious Leadership), gan eich helpu i adnabod ymatebion llai defnyddiol a dewis ffyrdd mwy adeiladol o symud ymlaen
Byddwch yn gadael gyda dau fframwaith syml a chofiadwy y gallwch eu defnyddio ar unwaith: Y cyntaf yw model Uwchben ac Islaw’r Llinell, sy’n eich helpu i adnabod eich meddylfryd a’ch ymatebion yn y foment. Yr ail yw’r symudiad o’r Triongl Drama i fodel TED* (Y Crëwr, Y Sialenswr a’r Coets), gan eich galluogi i arwain eich hun ac eraill gyda mwy o eglurder a llai o wrthdaro. Cewch brofi sesiwn rhyngweithiol go iawn, nid darlith. Cewch gyfle i fyfyrio, gweithio gyda phartner, profi ymarfer presenoldeb byr a gadael gyda cham gweithredu clir i’w roi ar waith yn ystod yr wythnos ganlynol.
Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb
Julie Rees
Hyfforddwr Arweinyddiaeth Weithredol
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.