Y Gwyddoniaeth a’r Seicoleg tu ol i Ddysgu Ddarllen

Sut mae plant yn dysgu darllen mewn gwirionedd? Yn y seminar hwn, bydd Dr Manon Jones yn archwilio’r wyddoniaeth a’r seicoleg sy’n sail i ddatblygiad darllen, gan edrych ar y prosesau gwybyddol sy’n galluogi plant i symud o adnabod seiniau a geiriau i ddarllen yn fwy rhugl, deallus ac annibynnol. Bydd y sesiwn yn cynnig trosolwg hygyrch ond ymchwil-seiliedig o’r hyn rydym yn ei wybod am ddysgu darllen, ac yn helpu ymarferwyr i ddeall pam mae rhai dulliau addysgu yn fwy effeithiol nag eraill. Bydd hefyd yn ystyried goblygiadau’r dystiolaeth ar gyfer addysgu darllen mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg.

Iaith: Cymraeg | Cynulleidfa: Pawb

Yr athro Manon Jones

Prifysgol Cymru Bangor a CA:LON