ADHD, Awtisitiaeth a Llythrennedd: Cefnogi Plant a Phobl Ifanc yn yr Ystafell Ddosbarth

Gall gofynion llythrennedd eich ystafell ddosbarth  fod yn heriol i blant a phobl ifanc ag ADHD ac awtistiaeth. Bydd y seminar hon yn archwilio’r rhesymau dros hyn, gan ganolbwyntio’n benodol ar systemau sylw a chof gweithredol.

Yn y seminar ryngweithiol hon, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, byddwn yn archwilio strategaethau ymarferol i greu amgylchedd dosbarth sy’n cefnogi datblygiad darllen ac ysgrifennu plant a phobl ifanc ag awtistiaeth a/neu ADHD. Byddwn yn ystyried sut i weithio gyda’r prosesau sy’n ymwneud â sylw a chof gweithredol, cefnogi ymgysylltiad â dysgu, a darparu cymorth ymarferol effeithiol ar gyfer ysgrifennu. Yn dilyn trosolwg byr o’r heriau cyffredin, bydd y seminar yn cynnig syniadau, strwythurau a gweithgareddau ymarferol y gall cyfranogwyr eu rhoi ar waith yn eu hystafelloedd dosbarth y diwrnod canlynol.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb

Colin Foley 

Neurodiversity Training UK