Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Wrth wraidd bob absenoldeb mae dysgwr â’i brofiadau, ei anghenion a’i rwystrau ei hun. Sut y gall ysgolion gyfuno disgwyliadau clir a threfn gyson â’r perthnasoedd a’r gefnogaeth sy’n helpu dysgwyr i fynychu’n rheolaidd?
Yn y seminar ymarferol hon, bydd Ian yn tynnu ar ei brofiad fel arweinydd ysgol ac ymgynghorydd gwella ysgolion i archwilio’r cysylltiadau rhwng presenoldeb, ymdeimlad o berthyn, ymddygiad a diogelu. Gan ddefnyddio enghreifftiau o arferion ysgol, bydd yn ystyried sut i nodi patrymau absenoldeb sy’n datblygu a deall y rhwystrau, drwy sgyrsiau â dysgwyr a’u teuluoedd, a chynllunio cymorth wedi’i dargedu, gan gynnwys ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd cynadleddwyr yn gadael gyda strategaethau ymarferol i gryfhau arferion dyddiol sy’n cefnogi presenoldeb, meithrin partneriaethau adeiladol â theuluoedd, cefnogi dysgwyr sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod o absenoldeb, a gwirio a yw ymyriadau yn gwneud gwahaniaeth.
Ian Curry
Ymgynghorydd Addysgol
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.