Addysgu gyda DA heb Golli’r Dysgu: Strategaethau Ymarferol o Wyddor Dysgu

Beth yw rôl addysgu effeithiol pan all dysgwyr gynhyrchu atebion mewn eiliadau?

Gan symud o ddamcaniaeth i ymarfer, mae’r sesiwn hon yn defnyddio egwyddorion gwyddor dysgu a metawybyddiaeth i archwilio dulliau ymarferol o gefnogi dysgu gyda chymorth DA. Drwy enghreifftiau o’r ystafell ddosbarth, bydd cyfranogwyr yn ystyried sut i ysgogi meddwl cyn cyflwyno DA, helpu dysgwyr i benderfynu pryd a pham i’w ddefnyddio, annog holi ac ymholi yn hytrach na chwilio am atebion yn unig, gwerthuso gwybodaeth a gynhyrchir gan DA, a myfyrio ar yr hyn sydd wedi’i ddysgu mewn gwirionedd. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda strategaethau ymarferol ar gyfer lleoliadau uwchradd ac addysg bellach y gellir eu haddasu ar unwaith.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb

Dawn Taylor

Dirprwy Bennaeth | Ymchwilydd a Strategydd AI