Gweithio gyda
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Mae addysgu mathemateg mewn dosbarthiadau cymysg eu hoedran yn aml yn golygu diwallu anghenion dysgwyr o ddau, tri neu hyd yn oed bedwar grŵp blwyddyn. Fodd bynnag, ni ddylai hynny olygu cynllunio a chyflwyno sawl gwers mathemateg ar wahân. Mae’r sesiwn ymarferol hon yn archwilio sut y gall athrawon nodi’r cysylltiadau rhwng gwahanol themâu mathemategol, sefydlu mannau cychwyn cyffredin a darparu lefel briodol o her i ddysgwyr sydd ar gamau gwahanol yn eu dysgu. Byddwn yn ystyried sut y gall trefnu’r cwricwlwm yn ofalus, cwestiynu, cynrychioli a chynllunio tasgau’n bwrpasol leihau llwyth gwaith athrawon wrth gynnal disgwyliadau uchel. Bydd cyfranogwyr yn gadael gyda dulliau ymarferol o wneud mathemateg mewn dosbarthiadau cymysg eu hoedran yn fwy hylaw, yn fwy pwrpasol ac yn fwy effeithiol o fewn y Cwricwlwm i Gymru.
Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb
Toni Priddey
Ymgynghorydd Mathemateg – First4Maths Academy
Edrychwch ar yr holl fusnesau a gwasanaethau gwych rydyn ni’n gweithio gyda nhw.