Mwy na Dysgu Tu Allan: Gwneud yr Amgylchedd Awyr Agored yn Rhan Weithredol o’r Dysgu

Beth sy’n digwydd pan fyddwn yn symud y tu hwnt i gynnal gwersi yn yr awyr agored ac yn dechrau defnyddio’r amgylchedd awyr agored fel partner gweithredol yn y dysgu?

Yn y gweithdy ymarferol a bywiog hwn, bydd y cyfranogwyr yn profi ystod o heriau sy’n seiliedig ar y cwricwlwm, gan archwilio meysydd megis mathemateg, llythrennedd, gwyddoniaeth a chreadigrwydd. Drwy brofiadau gweithredol ac ymgysylltiol, byddwn yn archwilio sut y gall yr amgylchedd ei hun lywio’r dysgu, tanio chwilfrydedd a chreu cyfleoedd ystyrlon i blant feddwl, ymchwilio a datrys problemau. Nid oes angen coetir nac offer arbenigol, dim ond parodrwydd i weld y mannau awyr agored sydd eisoes gennym drwy lygaid newydd.

Nodwch fod y seminar hon yn cael ei hailadrodd am 12.00 | Bydd y seminar hon tu allan

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb

Carol Murdoch

Addysgwraig awyr agored, storïwr ac awdures arobryn