Cynnig Cenedlaethol i’r Gweithlu Addysg

Trosolwg o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg a phwysigrwydd uwchsgilio’r gweithlu er mwyn cyrraedd gofynion statudol y ddeddf. Cyflwyniad sy’n esbonio y cynnig sydd gan y Ganolfan ac amlinelliad o’r cyrsiau Dysgu Cymraeg sydd ar gael yn genedlaethol,yn rhad ac am ddim ar gyfer y gweithlu addysg.

Bydd cyfle i’r cyfranogwyr ar y dydd gofrestru ar gwrs gan holi pa lefel sy’n addas ar eu cyfer. Bydd cyfle iddyn nhw gael blas ar yr amrywiaeth cyrsiau yn ystod y sesiwn, a bod y cyflwyniad hefyd yn cynnwys elfen ar gynllunio’r gweithlu i gwrdd â gofynion y ddeddf gan baratoi ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy iaith ac ysgolion cyfrwng Cymraeg at y newidiadau.

Language: Welsh | Audience: All

Cynrychiolydd o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol