Tear top Tear bottom

Sioe Addysg Genedlaethol

Llandudno 2025

Seminarau
13/06/2025
Seminarau 2025
Archebu Grŵp
13/06/2025
Lawrlwytho Ffurflen
Arddangoswyr
13/06/2025
GWELD ARDDANGOSWYR

Sioe Addysg Genedlaethol
Venue Cymru, Llandudno 2025

Ymunwch â ni ynghŷd â’n holl siaradwyr anhygoel a’r arddangoswyr yn y Sioe Addysg Genedlaethol, dydd Gwener Mehefin 13eg 2025 yn Venue Cymru, Llandudno

Digwyddiad bythgofiadwy sy’n rhoi cyfleoedd a chynnig ffyrdd newydd i wella a chodi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.

Byddwn yn cyhoeddi’r seminarau yn fuan!

Pam mynychu'r Sioe?

Digwyddiad addysgol y mae’n rhaid ei fynychu

Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr sector a chyfleoedd i gwrdd ag amrywiaeth eang o arddangoswyr.

Wrth ymweld â’r sioe byddwch yn:

  •  Cael mynediad i dros 60+ o seminarau DPP archrededig gan Agored Cymru;
  • Caffael strategaethau parod & adnoddau i godi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu & chefnogi dysgwyr;
  • Cysylltu drwy gyfleoedd rhwydweithio ardderchog hefo cyfoedion & siaradwyr;
  • Ysbrydoli a grymuso eich staff;
  • Treialu’r cynhyrchion/gwasanaethau diweddaraf a derbyn cynigion unigryw gan arddangoswyr.

Darllenwch yr adborth anhygoel ‘rydym wedi’i gael…..

“Dyma’r tro cyntaf i mi fod yn y Sioe, ac mae’n rhaid i mi ddweud mae hi wedi creu argraff mawr arnai. Roedd hi’n sioe mor fawr hefo’r holl stondinau yn arddangos gymaint o adnoddau a deunyddiau addysgol. Mae o’n lwyfan anhygoel a phob dim o dan yr un to. Mi fyddai’n bendant yn ôl flwyddyn nesaf“.

Eisiau cadw mewn cysylltiad?
Cofrestrwch am gylchlythyr