Sioe Addysg Genedlaethol
Venue Cymru, Llandudno 2025
Ymunwch â ni ynghŷd â’n holl siaradwyr anhygoel a’r arddangoswyr yn y Sioe Addysg Genedlaethol, dydd Gwener Mehefin 13eg 2025 yn Venue Cymru, Llandudno
Digwyddiad bythgofiadwy sy’n rhoi cyfleoedd a chynnig ffyrdd newydd i wella a chodi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.
Byddwn yn cyhoeddi’r seminarau yn fuan!
Pam mynychu'r Sioe?
Digwyddiad addysgol y mae’n rhaid ei fynychu
Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr sector a chyfleoedd i gwrdd ag amrywiaeth eang o arddangoswyr.
Wrth ymweld â’r sioe byddwch yn:
- Cael mynediad i dros 60+ o seminarau DPP archrededig gan Agored Cymru;
- Caffael strategaethau parod & adnoddau i godi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu & chefnogi dysgwyr;
- Cysylltu drwy gyfleoedd rhwydweithio ardderchog hefo cyfoedion & siaradwyr;
- Ysbrydoli a grymuso eich staff;
- Treialu’r cynhyrchion/gwasanaethau diweddaraf a derbyn cynigion unigryw gan arddangoswyr.
Darllenwch yr adborth anhygoel ‘rydym wedi’i gael…..
“Dyma’r tro cyntaf i mi fod yn y Sioe, ac mae’n rhaid i mi ddweud mae hi wedi creu argraff mawr arnai. Roedd hi’n sioe mor fawr hefo’r holl stondinau yn arddangos gymaint o adnoddau a deunyddiau addysgol. Mae o’n lwyfan anhygoel a phob dim o dan yr un to. Mi fyddai’n bendant yn ôl flwyddyn nesaf“.