Siapiwch eich byd drwy ddarganfod eich llais

Mewn byd lle mae addysg yn brysur, swnllyd, mewn anghydfod a chreisis, mae’n fwy pwysig nag erioed i ddefnyddio ein llais yn hyderus a chlir ac yn y gobaith y byddwn yn cael ein clywed.

Pan rydym yn defnyddio ein llais, mae gennym y modd i siapio’r byd o’n cwmpas, p’run ai’n y dosbarth, mewn sgwrs hefo rhiant neu mewn cynhadledd.

Mae peidio â’i ddefnyddio yn golygu ein bod ar fympwy eraill, ac efallai’n siomi’r genhedlaeth nesaf o athrawon a’r proffesiwn.

Dysgwch sut i ddatblygu llais pwêrus y bydd eraill yn gwrando arno.

Bydd y sesiwn yma drwy gyfrwng Saesneg.

Addas i arweinwyr.

Catherine Sandland

Cyfarwyddwr