Pethau nad oeddwn yn ei wybod am fy nyfais gyfrifiadurol!

Darganfyddwch y potensial nad oeddech yn ymwybodol ohono sydd eisioes ar eich dyfeisiadau ac ar flaen eich bysedd!

Bydd y sesiwn ymarferol yn cyflwyno athrawon i nodweddion nad oeddech efallai’n gwybod amdanynt ar eich iPad,cliniadur,a Chromebooks ac a fydd yn cyfoethogi y dysgu’n y dosbarth heb yr angen am adnoddau ychwanegol na thechnoleg. Byddwn yn defnyddio adnoddau parod a ‘settings’ fydd yn gwneud dysgu’n haws, cefnogi anghenion dysgu amrywiol, a dal sylw y myfyrwyr mewn ffyrdd newydd. Byddwch yn gadael y sesiwn hefo hyder newydd ysbrydoledig i gyfoethogi eich gwersi, symleiddio eich llif gwaith, a chreu profiadau rhyngweithiol a chofiadwy drwy ddefnyddio’r dyfeisiadau sydd eisioes yn eich dosbarthiadau.

Nick Evans

Pennaeth Dysgu Digidol

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb