Defnyddio’r tu mewn i wneud y cyswllt gorau hefo natur

Creu cysylltiad cryf hefo natur ydy’r danghosydd gorau o ymddygiad pro-amgylcheddol mewn pobl ifanc, heb anghofio’r cyfoeth o fanteision eraill.Yn y byd prysur yma sy’n cael ei arwain a’i ddylanwadu gan ganlyniadau addysgol mae ymarferwyr angen strategaeth i wneud y mwyaf o’r effaith y gall cyswllt hefo natur ei gael, tra’n dal i gyflwyno cynnwys angenrheidiol y cwricwlwm.

Yn y seminar byddwn yn defnyddio ‘intersectional pedagogy’ fel fframwaith i ymchwilio sut y gallwn wella ein sgiliau trosglwyddo’r cwricwlwm i gynnwys cysylltiad hefo natur hyd yn oed pan rydym oddi mewn i’r dosbarth. Mae hon yn elfen sydd yn bwysig i fyfyrwyr sydd yn cael eu symbylu gan yr amgylchedd, y swyddogion cynaliadwyedd mandadol newydd sydd yn chwilio am arweiniad, a’r rhai sy’n gyfrifol am y cwricwlwm dyniaethau a gwyddoniaeth.

Rebecca Edwards / Mark Tiernan

Cydlynydd Dysgu Amgylcheddol/Rheolwr Gweithrediadau’r Ganolfan

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb