Arwain hefo dewrder: Sgyrsiau am hil mewn ysgolion

Fel penaethiaid rydych yn siapio’r diwylliant sy’n siapio ein plant. Bydd y seminar ryngweithiol yma’n cynnig gofod cefnogol i archwilio sut mae arwain sgyrsiau dylanwadol ar hil hefo hyder a chydymdeimlad. Gyda’n gilydd fe allwn adlewyrchu ar sut y gall ein  arweinyddiaeth feithrin y syniad o berthyn, herio anghydraddoldeb, ac ysgogi gobaith.

Drwy strategaethau ymarferol a rhannu deialog byddwch yn caffael adnoddau fydd yn arwain eich cymuned ysgol hefo dilysrwydd ac empathi.

Mae’r ffocws ar fod yr arweinyddion y mae ein plant eu hangen ar gyfer heddiw, fel y gallent hwy yn eu tro ddod yn arweinyddion yfory mewn cymdeithas gadarn mewn cyfiawnder, tegwch a chyfleoedd i bawb.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Penaethiaid: Cynradd/Uwchradd/ADY

Viv Grant
Sefydlydd a Chyfarwyddwr