Gweithio gyda dysgwyr Niwrowahaniaethol

Bydd y seminar yn edrych ar brofiadau nodweddiadol o weithio hefo dysgwyr niwrowahaniaethol o fewn cyd-destun addysgol. Bydd yn edrych ar anawsterau cyffredin ADHD yn ogystal â chryfderau nodwedddion cyd-destunol mewn dysgwyr ADHD. Bydd y sesiwn yn herio camsyniadau ynglŷn â niwrowahaniaeth ac edrych ar sut y gallwn newid y naratif am niwrowahaniaeth o fewn addysg cyn disgwyl am newid systematig ehangach.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: ADY & Pawb

Dr Tom Nicholson- Hyfforddwr a Phrif Siaradwr mewn Niwrowahaniaeth a Niwro-gyd-gynhwysiant ac Athro Cynorthwyol mewn Nyrsio Iechyd Meddwl