‘Beyond Exhaustion’: Deall a Chefnogi ‘Burnout’ Niwrowahaniaethol yn y Dosbarth

Mae dysgwyr niwrowahaniaethol yn wynebu pwysau unigryw sydd yn gallu arwain at flinder cronig, gor-lethu emosiynol, a chau i lawr yn gyfangwbl sydd yn aml yn cael ei gam-ddehongli fel ymddieithrio neu ymddygiad heriol. Mae’r sesiwn yn edrych ar wreiddiau ‘burnout’ niwrowahaniaethol, a sut mae’n amlygu mewn lleoliadau addysgol, ynghŷd â strategaethau ymarferol a charedig i atal a chefnogi adferiad. Darparwch eich hun hefo’r adnoddau i greu amgylcheddau diogel ac ymatebol lle y gall pob disgybl ffynnu.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb

Kelly Hannaghan
Ymgynghorydd Iechyd Meddwl a Lles