Gwireddu Cynhwysiant: Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu, Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac Addysgu o Ansawdd Uchel ar Waith

Nid drwy ymyraethau ar wahân y mae cynhwysiant yn digwydd, ond drwy’r penderfyniadau a wneir bob dydd yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y sesiwn ymarferol hon yn archwilio sut y gall Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) helpu ymarferwyr i gynllunio dysgu sy’n hyblyg, yn hygyrch ac yn uchelgeisiol ar gyfer bob dysgwr.

Drwy enghreifftiau ymarferol o’r ystafell ddosbarth, bydd cyfranogwyr yn ystyried sut y gall deallusrwydd artiffisial (AI), technoleg gynorthwyol a dulliau addysgu cynhwysol ymateb i amrywioldeb dysgwyr gan gynnal disgwyliadau uchel i bawb.

Bydd y sesiwn yn rhannu strategaethau ymarferol, syniadau cynllunio ac adnoddau myfyrio y gellir eu rhoi ar waith yn syth,  Y nod yw cefnogi ysgolion i gryfhau eu cynnig cyffredinol  a gwneud cynhwysiant yn rhan annatod o addysgu a dysgu o ddydd i ddydd, yn hytrach na’i ystyried fel ychwanegiad ar wahân.

Iaith: Saesneg | Cynulleidfa: Pawb

Dr Sarah Moseley 

Ymgynghorydd Addysgol ac Arbenigwraig mewn Cynhwysiant, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Datblygiad Llythrennedd