Y Sioe Addysg Genedlaethol
Venue Cymru, Llandudno 2024
Ymunwch â ni ynghŷd â’n holl siaradwyr anhygoel a’r arddangoswyr wyneb yn wyneb yn y Sioe Addysg Genedlaethol, dydd Gwener Mehefin 14eg 2024 yn Venue Cymru, Llandudno
Digwyddiad bythgofiadwy sy’n rhoi cyfleoedd a chynnig ffyrdd newydd i wella a chodi safonau,cyfoethogi profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.
Pam mynychu'r Sioe?
Digwyddiad addysgol y mae’n rhaid ei fynychu
Mae’r Sioe Addysg Genedlaethol yn cyflwyno seminarau ysbrydoledig gan arweinwyr sector a chyfleoedd i gwrdd ag amrywiaeth eang o arddangoswyr.
Wrth ymweld â’r sioe byddwch yn:
- cael mynediad i dros 40+ o seminarau DPP
- caffael strategaethau parod & adnoddau i godi safonau, cyfoethogi profiadau dysgu & chefnogi dysgwyr
- cysylltu drwy gyfleoedd rhwydweithio ardderchog hefo cyfoedion & siaradwyr
- ysbrydoli a grymuso eich staff
- treialu’r cynhyrchion/gwasanaethau diweddaraf a derbyn cynigion unigryw gan arddangoswyr
Darllenwch yr adborth anhygoel ‘rydym wedi’i gael…..
“Dyma’r tro cyntaf i mi fod yn y Sioe, ac mae’n rhaid i mi ddweud mae hi wedi creu argraff mawr arnai. Roedd hi’n sioe mor fawr hefo’r holl stondinau yn arddangos gymaint o adnoddau a deunyddiau addysgol. Mae o’n lwyfan anhygoel a phob dim o dan yr un to. Mi fyddai’n bendant yn ôl flwyddyn nesaf”.