Sut i gefnogi Plant a Phobl Ifanc sy’n Profi Galar

Yn ystod y seminar ryngweithiol yma byddwn yn edrych ar adweithiau cyffredin tuag at farwolaeth a sut y gallwn helpu plentyn neu berson ifanc i wneud synnwyr o’u colled, yn cynnwys strategaethau i ymdopi hefo penblwyddi, digwyddiadau arbennig a cherrig milltir pwysig eraill. Bydd y sesiwn yn cynnig syniadau ymarferol y bydd staff a rhieni … Continued

Datgloi y mwynhad mewn addysg: Seminar ar gyfer grymuso addysgwyr

Gydag 20 mlynedd o brofiad addysgu, rydw i wedi meithrin plant trwy lawenydd, cariad, chwerthin a dawns. Rwyf wedi gweld y llosg a’r straen y mae addysgwyr yn eu hwynebu, gan effeithio ar eu llawenydd a’u creadigrwydd. Mae’r seminar hon yn pwysleisio pwysigrwydd lles i addysgwyr i greu amgylcheddau dysgu llawen yn y gwaith a … Continued

‘Bullying is so gay’

Mae disgyblion LHDTC+ yn fwy tebygol o gael eu bwlio yn yr ysgol, ac er gwaethaf yr holl waith i wella cydraddoldeb dydy’r ystadegau ddim yn gwella. Yn y seminar yma byddwn yn edrych ar y rhesymau pam fod bwlio’n cymryd lle, a’r camgymeriadau sydd yn aml yn cael eu gwneud wrth ddelio â bwlio, … Continued

Cefnogi Iechyd Meddwl a Lles Plant a Phobl Ifanc ag ADHD.

1) Gwendidau iechyd meddwl ADHD mewn plant a phobl ifanc, gan gynnwys gorbryder dysgwyr, anawsterau gyda bwyd, hunan-niweidio, hunan-feddyginiaeth, sensitifrwydd gwrthod a phroffiliau gwrthwynebol a herfeiddiol. 2) Strategaethau i gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys hunanreoli ADHD, diwylliant ysgol ac ystafell ddosbarth, dathlu niwroamrywiaeth ac ymyriadau i gefnogi rheoleiddio emosiynol.

‘I only said and … WOOSH!’

Bydd Neal a Meic yn eich tywys drwy gyflwyniadau ar ymddygiad, beth sydd yn eich corddi a sut i ddefnyddio y ‘mindful mole’ i ddeall a chefnogi yr ymddygiad mwyaf anodd.

Pryd mae arferion cyfyngol yn troi’n achos pryder diogelu?

Bydd y seminar yn edrych ar y cydbwysedd hynod bwysig rhwng bod yn saff a’nhawliau wrth ddefnyddio arferion cyfyngol mewn mannau addysgol a gofal. Bydd y cyfranogion yn cael dealltwriaeth eglur o’r gwahanol fathau o arferion cyfyngol a’r ystyriaethau moesol a chyfreithiol sydd ynghlwm â’r defnydd o arferion cyfyngol. Bydd Maria’n esbonio sut a phryd … Continued

Datblygiadau newydd mewn cyhoeddi llyfrau digidol rhyngweithiol ar gyfer ysgolion.

Trosolwg llawn ar apiau, meddalwedd ac offer newydd sy’n hwyluso a galluogi disgyblion i fod yn fwy mentrus a chreadigol wrth gofnodi gwaith o fewn y dosbarth. Creu a chyhoeddi gwaith gwreiddiol ‘trawsgwricwlaidd’ y disgyblion ar ffurf testun, graffeg, sain, a ffilm. Dathlu cenhedlaeth newydd hyderus o ddarlledwyr digidol ifanc sy’n cyhoeddi gwaith ar feddalwedd … Continued